- 14 1969 (Maw.) Cyfarfod sefydlu y Parchg Richard Jones MA BSc i’r Tabernacl (CM).
- 13 1873 (Mon.) Apwyntiwyd Uren Rheged Edwards, Cheltenham fel prifathro 100 o ddisgyblion yn y ‘British School’.
- 13 1877 (Sat.) Ar werth ‘Charming Nancy’ smac 21 tunnell yn y Sailors Home.
- 12 1964 (Sad.) Tân ym Methania o dan y Capel lle roedd y boiler.
- 12 1910 (Mer.) Etholiad Cyffredinol: Cyfarfod Cyhoeddus yn y Guildhall Vaughan Davies AS; Athro Levi, Aberystwyth; D. Davies, Treforgan, Y Parchg J D Hughes, Blaenwaun. Cadeirydd Y Parchg John Williams, Bethania
- 12 1876 (Mer.) Bu farw Dr. William Lane Noot, yn 71 oed.

- 11 1897 (Llun) Y gwaith o osod pafin lawr ar hyd Pendre yn mynd ymlaen yn gampus yn ôl adroddiad yng nghyfarfod o Gyngor y Dref.
- 11 1952 (Gwe.) Derbyniwyd swm o £32, 753 ar gyfer 22 o dai lan yn Ridgeway. Dathliadau mawr yn Ridgeway heno!
- 10 1897 (Sul) Y Maer (Morgan-Richardson) yn gwahodd crachach y dre i blannu coed coffa ar y Netpool:
Pwy ddaw i Banc y Netpool; I blannu coeden fach?; Yr hon, os tyf i fyny; A’ch coffa o âch i âch!
Talcen Slip
Roedd ambell fardd (gwell?) ddim yn hir cyn addasu’r llinell olaf!
- 9 1964 (Iau) Ricky & the Raiders yn perfformio yn y Blac Leion. ‘Nos Sadwrn yn y Blac’ ar fin cychwyn. Y stori llawn cyn bo hir.
- 8 1872 (Llun) Mudiad yr Oddfellows yn cychwyn yn y dre. Mae rhai yn honni iddynt weld pobl od yn y dre cyn hyn!
- 8 1872 (Llun) Tân wedi llosgi adeilad J. R. Daniel, Cabinet Maker, Stryd San Mair. Penderfynodd y Cyngor fod angen Injan Dân ar y dre. Y bwriad oedd codi £102 trwy danysgrifiad. Ni welodd Aberteifi injan dân cyn 1930au – ail-law o’r enw ‘Ada’, o Gastell-nedd. Tan hynny – bwcedi yn unig!
Antics Ada yr Injan Dân
Pan ddaeth Ada yr injan dân i wasanaethu’r dre doedd dim llawer o siap i gael ar bethau. Mewn llythyr a anfonwyd i’r Teifi-seid 8 Mai 1936 dyma sut ddisgrifiodd y llythyrwr ‘Onlooker’ yr hyn a welodd ar antics y Frigad Dân:
‘Neithiwr ar ôl trafferthion i ddechrau’r Injan aeth ‘Ada’ i gyfeiriad yr argyfwng am 7.50 pm er mwyn cyrraedd tân ar fferm yn Synod Inn, 16 milltir i ffwrdd. Cyrhaeddodd y dynion tân am 8.50 pm. Yn ystod y daith stopiodd yr Injan 4 o weithiau a methwyd dechrau’r peiriant yn y ffordd arferol. Roedd rhaid i’r dynion tân, gyda help, wthio’r Injan – sy’n pwyso 4 tunnell – ar hyd yr heol er mwyn dechrau’r peiriant. Dwywaith stopiodd o fewn golwg y tân. Taflwyd dwr ar y tân o’r diwedd am 9.10 pm. Ac ar ben popeth collwyd darnau o berfeddion ‘Ada’ ar y ffordd nôl gan gyrraedd Aberteifi am 4 o’r gloch y bore. Mae’r dynion yn gweithio’n dda iawn, felly pam nad oes ganddynt Injan teilwng?
Pam wir?
- 8 1867 (Maw.) Bad achub ‘John Stuart’ allan eto yn helpu’r ‘Coronation’ o Bideford.