- 31 1916 (Mer.) Claddu William Woodward, Caerleon, Pendre, 78, asiant tai
- 31 1827 (Iau) Gosod carreg sylfaen Castle Green
- 31 1824 (Llun) Cyfarfod gyntaf y Cymmrodorion.
- 30 1912 (Iau) Marw Evan Ithel James, clerc, 17 oed, Gordon Terrace.
- 29 1953 (Gwe.) Fecci wedi agor caffi rhif 12 Pendre.
- 28 1950 (Sul) Sul dinesig yng Nghapel Mair ar achlysur dyrchafu’r Cyng J. Rowland Daniel yn faer y fwrdeistref
- 27 1918 (Llun) Yr olaf o’r efaciwis o Wlad Belg yn gadael.
- 27 1915 (Iau) Suddo’r HMS Majestic tra’n helpu byddin Awstralia yn Seddel-Bahr. Achubwyd morwyr lleol i gyd. Gweler hefyd 26 Mawrth.
- 26 1925 (Maw.) Claddu William Ewart Yerward James, Caemorgan, 58, cyfreithiwr.
- 26 1887 (Iau) Ail arwerthiant pwysig rhan o stad y Priordy yn y Guildhall.
- 25 1963 (Sad.) Trên nwyddau olaf mas o’r dre i Hendy-gwyn.
- 24 1859 (Maw.) Cyngor y Dref yn penderfynu estyn y Guildhall o ryw 11 troedfed fel bod hyd yr adeilad yn cyrraedd 57 troedfedd a 5 modfedd.
- 24 1880 (Llun.) Agoriad swyddogol Mt Zion. Gosodwyd y carreg sylfaen gan Syr William Davies AS sir Benfro. Cost yr adeilad oedd £1, 190.
- 23 1969 (Gwe.) Agor Cafe Gina’s ar y Stryd Fawr
- 23 1950 (Maw.) Ymweliad Syrcas Ringland – y gore ers blynyddoedd.

- 22 1871 (Llun) Gosodwyd y Canon o flaen y Guildhall