- 14 1963 (Maw.) Ffilm Walt Disney Nikki Wild Dog of the North (U) mlaen yn y Pav.
- 13 1966 (Gwe.) Bendithio Lawnt Bowls Newydd y dre
- 12 1897 (Maw.) Gosod cerrig goffa Ysgol Uwchradd Aberteifi. Gosodwyd 5 carreg gan Mrs Morgan Richardson, Noyaddwilym, Mrs (Dr) Phillips, Bank House, Mrs W Lewis, Banc Lloyds, Mr W J Williams, y Maer, a’r Parchg John Williams, Bethania, cadeirydd y llywodraethwyr.
- 11 1904 (Mer.) Annie Myfanwy Morris, Stryd Fawr, 12 oed, merch M Morris.
- 10 1687 (Maw.) Aeth y llong ‘Good Behaviour’ o Aberteifi â llwyth o geirch, cwrw a samwn i Lundain
- 9 1994 (Llun.) Cinio i goffau penblwydd Cylch Cinio Aberteifi yn 21 oed yng Ngwesty Castell Malgwyn.
- 9 1953 (Sad.) Agoriad swyddogol y Netpool gan Roderic Bowen a Col Harewood Williams
- 9 1860 (Mer.) Cyfarwyddiadau i Syrfewr y dref osod postyn ger yr iet uwchben Ffynnon y Netpool. Yr enw lleol ar yr iet oedd Iet Barney ar ôl Mr Barnaschoni, dyn gwerthu watshys yn Stryd Sant Mair oedd yn arfer mynd am wac bob dydd lan at yr iet.
- 9 1653 (Llun.) Geni Cyngor Tref Aberteifi.
- 8 1946 (Wed.) Ail agor Festri Capel Mair ar ôl adnewyddiad.
- 8 1922 (Mon.) Llawdriniaeth gyntaf yn Ysbyty Aberteifi gan Syr John Lynn Thomas ar ddyn 18 oed o Landudoch. Achubwyd bywyd y gŵr.
- 8 1879 (Thurs.) Gosod carreg sylfaen Capel yr Hope am 3.00 p.m gan David Davies AS. Gweinyddwyd y gwasanaeth gan y Parchg Dr Rees, Abertawe.