- 7 1949 (Sad.) Ymweliad Edwin Heath, hypnotydd yn y Guildhall am 5 a 7.30. Byddwch yn methu credu’ch llygaid!
- 6 1888 (Gwe.) Geni Lenny Owen 2 Lion Terrace, yn ddiweddarach yr Athro L V D Owen, Prifysgol Nottingham (m. 1952) , mab i Mr a Mrs John Owen, clerc cyfreithiwr. Cafodd ei addysg yn Llanymddyfri a Choleg Keeble, Rhydychen. Cafodd dosbarth cyntaf mewn Hanes Modern ym 1911. Yn ystod y Rhyfel Gyntaf gwasanaethodd fel Capten ym 5ed Bataliwn Rhydychen a Swydd Buckingham. Bu’n darlithio ym Mangor a Sheffield cyn ymuno â Nottingham ym 1920. Ymddeolodd ym 1951 a bu farw Chwefror 1952.
- 5 1930 (Llun) Hedfan o Banc y Warren! Berkshire Aviation Tours yn rhedeg teithiau i ymwelwyr o Banc y Warren – bant o eiddo Esrom Evans, Aelybryn.
- 5 1884 (Llun) Claddu John Rowland Daniel, 12 Stryd y Santes Fair, 52 oed, dodrefnydd ty.
- 5 1859 (Iau) Suddo ‘Mary of Cardigan’ oedd yn cario llechi o Gilgerran
- 4 1908 (Llun) Claddu John William Marriott Smith, 32 oed, Stryd Napier, Swyddog Treth Incwm
- 3 1824 (Llun) Sefydlu Cymdeithas Cymreigyddion Aberteifi yn yr Angel. Cyfarfodydd Dydd Mercher cyntaf pob mis. Yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf: Thomas Bowen, esq., islywydd Stephen Williams; cadeirydd Y Parchg John Herring, Bethania; trysorydd David Mathias; ysg. James Jones; a’r bardd J M Jones (Ioan Cunllo).
Cymdeithas, urddas a harddwch – y wlad
A’i haelodau harddflwch;
Ac eres dan Gwladgarwch
Trwy’n mynwesau’n fflamiau fflwch.
Brwd haf yn Aberteifi – yw weithian
Ar yr Iaith lan wisgi;
Boneddion, bawb, yn noddi
Ffrydiau per ei phurdeb hi.
Cymdeithas, urddas a harddwch – y wlad
A’i haelodau harddflwch;
Ac eres dan Gwladgarwch
Trwy’n mynwesau’n fflamiau fflwch.
Brwd haf yn Aberteifi – yw weithian
Ar yr Iaith lan wisgi;
Boneddion, bawb, yn noddi
Ffrydiau per ei phurdeb hi.
- 2 1900 (Mer.) Claddu Elinor Daniel, Bingham House, 30 oed.
- 1 1921 (Sul) Pris menyn wedi cwmpo i 2s y pownd.