- 6 1682 (Llun) Eagle of Lancaster wedi hwylio i mewn i borthladd Aberteifi, tra’n cario halen o Gaerhirfryn. Meistr y llong oedd George Taylor.
- 5 1880 (Mer.) Burial of Dr John Thomas, 48 oed.
- 4 1949 (Gwe.) Oherwydd straen yn dilyn gweithio gormod mae’r Athro T. J. Morgan, Coleg Cambria yn dioddef o anhwlyder nerfau. Mae wedi derbyn cyngor meddygol i ganslo pob trefniant cyhoeddus. Yn ddiweddar cyhoeddodd lyfr o farddoniaeth a darnau adrodd ac wrthi yn paratoi Llyfr Gosod yn y Gelfyddyd o Feirniadu.
- 4 1949 (Gwe.) Gwleidyddion yn siarad!
‘Rwy’n derbyn llythyron dyddiol oddi wrth Toriaid yn sir Aberteifi, yn nodi eu bwriad i gefnogi fi yn yr etholiad nesaf’ Roderic Bowen AS
‘Yn ystod fy nghyfnod fel ymgeisydd mae’n rhyfedd y nifer o Ryddfrydwyr yn y sir, a nifer sydd wedi cefnogi’r achos Rhyddfrydol am flynyddoedd lawer, sydd wedi dod ata’i yn gwbl rhydd ac sy wedi dymuno’n dda i fi’ Dr S G Little, ymgeisydd y Toriaid.
‘Mae’r gobaith i Sosialaeth yn sir Aberteifi yn llachar iawn. Bob dydd mae ffermwyr yn dod drosodd i’n hochr ni’, Iwan Morgan, ymgeisydd Llafur.
Adroddiad Tivy-side ON Roderic Bowen ennillodd yn yr etholiad nesaf (1950 – tan 1966)
- 4 1949 (Gwe.) Hysbyseb yn y Tivy-side: Gwasanaeth Llyfrgell arbennig: W. H. Smith, 18 Heol Fawr, Aberteifi. Ymunwch â llyfrgell gorau Lloegr – HEDDIW!
Dewis £3 (12 mis); 35/- (6 mis)
Post 30/- (12mis); 17/6 (6mis); 10/6 (3 mis)
Dosbarth A 25/- (12 mis); 14/6 (6 mis); 9/- (3 mis)
Dosbarth B 12/6 (12 mis); 7/- (6 mis); 4/- (3 mis)
- 3 1949 (Iau) Gŵyl Ddrama gan gwmniau enwocaf Ceredigion (yn y Pav). Y Pibydd yn y Maes, T. C. Murray; cyf. gan Nan Davies gan Gwmni Aelwyd Aberystwyth; Y Ty ar y Rhos, Amy Parry-Williams gan Gwmni Talybont; Adar o’r Unlliw, J. O. Francis gan Gwmni Beulah (T. Tegryn Davies). Also two one act plays by St Mary’s Cymry’r Groes: The Other side of the wall, P. M. Bentley; and Uncle Joseph, J. B. Trenwith. Arweinydd T. Tegryn Davies. Trefnwyr y llwyfan: Fred Lewis, Garfield Thomas, Lemuel Morgan.
Llywydd Y Cyng. W. L. Davies, Pantyderi; Cardeirydd Hen. Hubert M. Davies DL, CadeiryddPwyllgor Addysg Ceredigion.
Drysau ar agor am 6.30. Dechrau am 7.00 yn brydlon; 5/- a 3/6 seddi cadw; 2/6
Tocynnau oddi wrth Nance Jones, Welsh Stores. Ffôn 191 (rhag ofn fod tocynnau ar ôl!)
Elw tuag at Gronfa’r Neuadd Goffa. Pwyllgor: Cyngh Jenkin Richards YH, maer, Trysorydd: Nance Jones; Ysgrifennydd: J. H. Johns.
- 2 1889 (Gwe.) Etholwyd y Parchg John Williams, yn ddiwrthwynebiad fel cyngorydd ar Gyngor Sir Aberteifi. Y sedd ar gael oherwydd i Levi James fynd yn henadur.
- 1 1983 (Maw.) Robin Morris-Jones yn cychwyn fel Clerc y Dref.
- 1 1963 (Gwe.) Dick Richardson, y bocsiwr trwm yn ymweld â changen Aberteifi o’r Lleng Prydeinig yng Ngwesty’r Cliff.
- 1 1880 (Llun) Marw y Dr John Thomas, 40 oed. Ef oedd y cyntaf i’w gladdu yn y fynwent newydd (5.3)
- 1 1879 (Sad.) Streic gan masiwniaid y dref. Roedd wal y fynwent newydd yn cracio fel roedd y brics yn mynd lawr. Y bai oedd ar y brics – heb eu crasu digon yn ffwrn Gwaith Brics y dref.