- 21 1953 (Sad.) Twrnament bocsio amatur yn y Neuadd Ymarfer. Dewch i weld Bois y Llynges yn clatsho’i gilydd!
- 21 1951 (Mer.) Dosbarthu gwobrau yn yr Ysgol Uwchradd. Siaradwr gwadd Capten Roderic Bowen AS.
- 20 1970 (Gwe.) 10.00 am Ail-agor Hodges Mens Shop. Siwt o ddillad i ddynion am £16.16s.
- 20 1918 (Mer.) Claddu Carolina Joanna VANDE WALLE, Stryd San Mair, 71, gwraig Leudvircus (Belgian Refugee)

- 19 1991 (Maw.) Marw O. M. Owen (Mr Gwyl Fawr Aberteifi). Claddwyd 22 Mawrth 1991. Ganwyd ym Mhlaenporth Gorffennaf 1912. Symudodd i Lundain am 15 mlynedd gan ddychwelyd fel rheolwr stadau. Sefydlodd ef a’i wraig rownd llaeth yn y dre ac wedyn agorodd siop ym Maesglas. Roedd yn gynghorydd y dre am dros 30 mlynedd, ac yn Faer yn 1975, 1977 a 1989. Roedd yn fwyaf adnabyddus fel ysgrifennydd Gwyl Fawr Aberteifi ac ysgrifennydd y Sioe. Cafodd MBE yn 1979 am ei wasanaeth i’r gymuned.
- 18 1949 (Gwe.) Mae Mr David Jones Watts, drapers (Cardigan) Ltd.) yn awyddus i gyhoeddi fod dewis o nwyddau’r Gwanwyn wedi cyrraedd. Mae rhain yn cynnwys adran fendigedig o gotiau enwog Windsmoor a chynllunwyr eraill o Lundain. Hefyd dewis o ddillad priodas. Argymhellir cwsmeriaid hen a newydd i ymweld â’r siop yn fuan er mwyn sicrhau dewis da. Cofiwch alw. Mae croeso cynnes i chwi i gyd.
- 18 1949 (Gwe.) Shire Hall. Unrhywbeth i chi eisiau mewn dodrefn. Dodrefn stafell wely cyfan am £46.13.3 3-piece suites £37.8.0d
- 17 1873 (Llun) Achub saith o bobl o’r Scwner ‘Dollart’ o Delzium, Hanover, gan y bad achub ‘John Stuart’.
- 16 1900 (Gwe.) Llyfrau, Beiblau, a llyfrau gweddi’r SPCK ar werth yn siop ddillad H. Morgan, Stryd Fawr.
- 15 1934 (Iau) SS Herefordshire mewn trafferth. Cyfle i gael sêl dda o nwyddau cyn bo hir!
- 15 1888 (Iau) Bu farw Owen Lloyd Thomas, perchennog y Teifiseid. Claddwyd ym mynwent yr Eglwys