22–31 Mawrth


Asa J. Evans, maer 1875 a 1876
Asa J. Evans, maer 1875 a 1876

31 1888 (Sad.) Bu farw Asa J. Evans yn ei gartref Penralltcadwgan, ger Rhoshill, am 2.30, ar ôl salwch hir ers tair blynedd. Cyfreithiwr oedd Asa J. Evans ac yn bartner hŷn cwmni Asa J. ac Ivor Evans, cyfreithwyr, Green St. Roedd yn aelod o Gyngor y Dref, ac etholwyd yn faer yn 1875 a 1876.  Rhyddfrydwr fel gwleidydd, ac yn aelod o’r Bedyddwyr, daliodd nifer o swyddi pwysig megis cyfreithiwr Undeb y Bedyddwyr ac hefyd yn yr un modd fel cyfreithiwr Cymdeithasfa Methodistiaid Calfinaidd De Ceredigion.Gydag eraill roedd wedi arwain y ffordd i ddiddymu’r Degwm yn lleol, ac aeth mor bell a gadael ei eiddo i’w gwerthu fel protest .

‘Mae Aberteifi wedi dioddef colled fawr trwy farwolaeth Ald. Evans, a bydd yn hir cyn cael arweinydd cystal i lenwi ei le.’

Yr Angladd: Claddwyd ym Mhenybryn ar Ddydd Iau 5 Ebrill. Cafodd angladd mawr. Roedd nifer o weinidogion, y Maer, Clerc y Dref, Trysorydd y Bwrdeistref, aelodau o Gyngor y Dref, a Cheidwaid y Brysgellau, ar flaen yr ymdeithgan a oedd yn cynnwys tua 40 o gerbydau, nifer o rai ar gefn ceffylau ac eraill ar droed, ac yn ymestyn bron i hanner milltir.

Y Parchg W. Evans, Cilgerran oedd yng nghofal y gwasanaeth yn y ty, cyn mynd ymlaen i Gapel Penybryn. Yno bu Y Parchedigion Mr. Griffiths (Bethel), Mr. Davies (Tyrhos), Mr Jenkins (Trefdraeth), Mr. Thomas (Blaenffos), William Jones (Tabernacl, Aberteifi), Mr G. Hughes, Mount Zion, Mr T. Phillips (Ferwig) ac eraill. Ar lan y bedd y Parchgn John Williams, Bethania a R. Price (Cilfowyr) oedd yn gwasanaethu.

  • 30 1985 (Sad.) Diwrnod mawr Hywel Davies yn ennill y Grand National ar Last Suspect. Pwy enillodd 50-1?

Hanes Grand National 1985

Hanes Last Suspect

Cyfle i weld darn olaf y ras

  • 30 1970 (Llun) Tudor James, 7 Stryd y Priordy yn dechrau rownd bapur yn lle J. C. Roberts, Stryd Fawr.
  • 30 1908 (Llun) Sefydlu y Seiri Rhydddion yn Aberteifi.  Ymhlith yr aelodau cynnar oedd y canlynol: William Woodward, David Davies, cyfreithiwr, Llewelyn Davies, ysgolfeistr, D. Lloyd Jones, rheolwr banc, G. W. Potter, Dr George E. Jones, Jenkin Jones, H. Nicholson, a M. L. Jones.
Rhaglen Cyfarfodydd yr Ail Agor, 1987
Rhaglen Cyfarfodydd yr Ail Agor, 1987
Rhaglen Cyfarfodydd yr Ail Agor, 1987
Rhaglen Cyfarfodydd yr Ail Agor, 1987
Rhaglen Cyfarfodydd yr Ail Agor, 1987
Rhaglen Cyfarfodydd yr Ail Agor, 1987
  • 29 1987 (Sul) Ail agor Tabernacl –ailadeiladwyd 1776, 1807, 1832; adnewyddwyd 1864, 1902, 1986.
  • 29 1885 (Iau) Marw Jane Thomas, perchennog y Tivy-side. Claddwyd Dydd Iau 2 Ebrill.
  • 29 1877 (Iau) Lansio y Margaret & Ann ( Y Llong Lestri). Dyma’r llong olaf a adeiladwyd yn Aberteifi. Y perchenogion oedd Capten Evan Parry, Tresaith ac Owen Jones, masnachydd, Llangrannog.  Adeiladwyd gan John Williams a’i fab. Suddwyd yn 1919.
  • 28 1688 (Llun) Neptune o Ilfracombe wedi cyrraedd a 9 tunnell o goed o Abermo.
  • 27 1970 (Gwe.) Siopau’r dre ar agor am y tro cyntaf ar Ddydd Gwener Groglith.
  • 27 1929 (Mer.) Sefydlwyd WI Aberteifi.
  • 26 1969 (Mer.) Claddu Thomas Jeremiah, 80, 8 Lôn Eben, a oroesodd suddo’r HMS Majestic. Suddodd yr HMS Majestic ar 27 Mai 1915. Roedd y llong yn rhan o’r ymosodiad ar Gallipoli. Achubwyd y morwyr lleol: Tom Parry Jenkins, George a Peter Davies, Willie Davies, Tommy Jeremiah, Tom Jones, David Jones, John Jones a David Williams – arwahan i un – Tom Evans, Llandudoch.
  • 25 1949 (Gwe.) Agor caffi Tudor House, 21 y Stryd Fawr, gan Mrs E. M. Cross.
  • 25 1873 (Maw.) Cyfarfod er mwyn sefydlu Urdd y Templwyr Da (mudiad dirwest). D. M. Palmer, prifathro yn y gadair.
  • 24 1892 (Iau) Marw Mrs Mary James, College Row, 75 oed.
  • 23 1970 (Llun) Eirwen Cleaners wedi symud i 45 Pendre.
  • 23 1945 (Gwe.) Ft Sgt Ivor Radley adre ar ôl 4 mlynedd yn y Dwyrain Canol, Gogledd Affrica a’r Eidal.
  • 22 1878 (Gwe.) Mae siop fferyllydd E. Ceredig Evans wedi agor.
Yn eisiau: Masterchef i'r Wyrcws!
Yn eisiau: Masterchef i’r Wyrcws!
  • 22 1865 (Mer.) Job yn y Wyrcws ar gyfer Matron a Masterchef.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s