
- 14 1927 (Llun) Geni G. Berwyn Williams, MBE, athro, prifathro Ysgol Brongest, cadw siop (Hardware Stores) ; maer 1973–4; cadeirydd pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1976; Uchel siryf Dyfed 1988–9; diacon ac ysgrifennydd Capel Bethania. Bu farw yn Ebrill 1990.

- 13 1897 (Sad.) Adroddwyd fod y Wyrcws wedi helpu 31 o grwydron (tramps) yn ystod y pythefnos blaenorol.
- 12 1897 (Gwe.) Mewn cyfarfod o’r Cyngor cyflwynwyd crud arian i’r Cyngh. W. J. Williams ar enedigaeth ei ferch yn ystod ei flwyddyn o wasanaeth fel maer – y rhodd cyntaf i faer y dre ers 1647, pan gyflwynwyd brysgyllau gan Jacobus Phillips, Tregibby.
- 11 1949 (Gwe.) Ail-agorwyd y ‘Victoria Restaurant a Milk Bar’, Stryd y Priordy, ar ôl gwaith cynnal a chadw. Ar agor tan 10.00 p.m. bob dydd. Cinio, te, prydau ysgafn, swper, a bwyd twym ar gael trwy’r dydd. Stafelloedd ar gael ar gyfer cyfarfodydd a chymdeithasu. Croeso i Bawb. Perchennog Bert Hallam. Ffôn 231.
- 11 1918 (Llun) Apwyntiwyd R. I. John fel meistr yr orsaf drên.
- 10 1944 (Gwe.) Lladdwyd un o’r Hôm Gard yn Neuadd Ymarfer y dref: Preifat H. G. Booker, 4 Gordon Terrace – taniwyd gwn ac anafwyd yn ei goesau. Cafodd dau arall eu hanafu: Andrew Wilson, Tregibby a Ronald James, Fferm Bryngwyn.
- 10 1905 (Gwe.) Bws stêm cyntaf i deithio rhwng Castellnewydd Emlyn ac Aberteifi
- Jonathan Jones
-
9 1957 (Sad.) Pen blwydd hapus i Jonathan Jones, Pencampwr Cwch-Modur y Byd, 1998
1979 – Pencampwr Sbrint y Byd, T2; ail ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol, T2 1980 – Pencampwr Cenedlaethol, T2 1982 – 3ydd ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol, Fformiwla Grand Prix. 1983 – 4ydd dros bawb yng nghyfres Rolatruc Cenedlaethol. 1984 – 4ydd dros bawb yn nghyfres Rolatruc Cenedlaethol; 4ydd dros bawb Fformiwla Grand Prix Cyfres y Byd. 1985 – 2il dros bawb yn Fformiwla Grand Prix Cyfres y Byd. 1986 – Enillydd Fformiwla Grand Prix Cyfres y Byd. 1989 – Enillyddd Fformiwla Grand Prix Cyfres y Byd. 1991 – Pencampwr y Byd Fformiwla 1 1993 – 3ydd ym Mhencampwriaeth y Byd Fformiwla 1. 1994 – 2il ym Mhencampwriaeth y Byd Fformiwla 1. 1996 – 3ydd ym Mhencampwriaeth y Byd Fformiwla 1; 1998 – Pencampwr y Byd Fformiwla 1
- 9 1653 (Mer.) Cyngor y Dref yn tyngu llw yn y Llys Lit yn y Castell.
- 8 2013 (Gwe.) Symud stanshiwns o flaen y Castell am 12.00.
- 8 1949 (Maw.) Côr Telyn Eryri ‘un o’r partion cyngerdd gore yng Nghymru heddiw’ yn ymddangos yn y Tabernacl am 7.30.
- 8 1878 (Gwe.) Marw Benjamin Davies, Pwllhai, gwastrawd yn y Blac Leion, ar ôl salwch hir.