- 7 1877 (Iau) Cysegru organ newydd yr Eglwys. Adeiladwyd yr organ gan Messrs. Foster ac Andrews o Hull. Dechreuwyd y gwasanaethau yn y bore. Pregethwyd gan Esgob Tyddewi, ac yn yr hwyr gan y Parchg O. A. Nares o Dreletert. Mr Videon Harding o Gaerfyrddin oedd wrth yr organ. Cynhaliwyd oedfaon tan 17eg o Fehefin â nifer o glerigwyr yr ardal yn gwasanaethu.
- 6 1952 (Gwe.) Agoriad swyddogol iet yr Ysgol Uwchradd gan Roderic Bowen AS. Dadorchuddiwyd plac yn cynnwys enwau’r rhai a laddwyd yn y Rhyfel gan Admiral H. W. W. Hope CB, CVO, DSO, YH, DL. Cynhaliwyd cyfarfod wedyn yn y Tabernacl.
- 5 1891 (Llun) Claddu Anne Timothy, Penmorfa, 37 oed gwraig Capt D Timothy.
- 4 1902 (Mer.) Tân wedi difrodi siop groser newydd Messrs. Evans & Co. (siop ddillad J. G. Morgan wedyn a nawr Howies)
- 4 1880 (Gwe.) Arwerthiant Carchar Aberteifi yn cael ei hysbysebu gan Thomas Griffiths, ocsiwniar.
- 3 1984 (Sul) Marwolaeth Miss S. R. Owen, athrawes a maer ym 1971. Roedd yn gyfnither i’r Athro L. V. Owen.

- 2 1926 (Mer.) Agor Lawnt Bowlio newydd y dre gan Cyng J. E. Jones, Shop Penbont.
- 1 1921 (Mer.) Cyngor y Dre yn penderfynu chwistrellu tar ar hyd prif hewlydd y dre am y tro cyntaf.
- 1 1866 (Gwe.) Rhifyn cyntaf o’r Teifi-seid. Pen blwydd 147 hapus!
- 1 1295 (Mer.) Ymweliad Edward I â’r castell. Arhosodd am 2 noson yn unig. [Dim byd llawer mlan yn y Pav efallai?!]