
- 21 1982 (Llun) J. Griffith Watts yn marw tra ar wyliau yn Rwsia. Wedi ymddeol fel swyddog inswrans, roedd yn aelod o gyngor y dref a gwasanaethodd fel maer 1972–3.
- 21 1973 (Iau) Cyfle olaf i weld ‘Cilwch Rhag Olwen’ , gan W. R. Evans yn Ŵyl Fawr Aberteifi.
- 20 1854 (Maw.) Apwyntiad David Davies, Ffrwdvale, Llandeilo fel Prisiwr Swyddogol Comyn Aberteifi.
- 19 1980 (Iau) Angladd Hubert Maxwell Davies, Frontivy, y cyntaf (a’r unig un?) i gael rhyddfraint y dre.
- 18 1760 (Sad.) Cyfarfod swyddogol cyntaf y ‘Sea Sarjants’ yn y ‘Long Room’ yn y Blac Leion.
- 18 1880 (Gwe.) Y Parchg John Williams yn cychwyn ei weinidogaeth ym Methania. Daeth y Parchg John Williams i Fethania o Benbedw. Yn frodor o Lansadwrn, roedd ef yn weinidog poblogaidd ac yn berson amlwg iawn ym mywyd gwleidyddol y dref a’r sir. Daeth yn aelod o Fwrdd Ysgol Aberteifi yn 1882, ac yn gadeirydd y corff hwnnw ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Yn 1895 – flwyddyn cyn i’r ysgol newydd agor – daeth yn gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Aberteifi a bu yn y swydd honno nes iddo ymddiswyddo yn 1913. Cafodd ei ethol unwaith yn rhagor ym mis Mai 1929. Daeth yn gynghorydd sir yn fuan ar ôl sefydlu’r Cyngor Sir yn 1889 a bu’n gadeirydd ddwywaith, sef yn 1894–5 ac eto yn 1914–15. Etholwyd ef yn henadur yn 1916. Gwasanaethodd ar bron pob pwyllgor o fewn y Cyngor Sir a bu’n gadeirydd y pwyllgor addysg am dair blynedd yn olynol ac yn gadeirydd pwyllgor yr heddlu ddwywaith. Bu hefyd yn aelod o Lys colegau Aberystwyth a Chaerdydd am flynyddoedd. Yn 1903 daeth yn aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid ac o 1911 ymlaen fe oedd cadeirydd y Bwrdd hwnnw. Bu hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Addysg Aberteifi a’r Cylch ac yn gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau lleol. … Gwasanaethodd fel ynad heddwch am flynyddoedd.
Dringodd hefyd o fewn enwad y Bedyddwyr yng Nghymru a chyrraedd llywyddiaeth Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1905. Roedd yn Rhyddfrydwr i’r carn a phan fu farw yn 1929 derbyniodd swyddogion Bethania delegram oddi wrth y cyn brif weinidog David Lloyd George: ‘Deeply regret to hear of the death of my old friend, Rev. John Williams … It will be a real loss not only to Cardiganshire but to Liberalism throughout Wales.’
Roedd y Parchg John Williams, siwr o fod, yn un o’r pobl mwyaf dylanwadol tref Aberteifi yn ystod diwedd y 19eg ganrif a degawdau cyntaf yr 20ed ganrif.
- 17 1915 (Iau) Croeso nôl i arwyr yr HMS Majestic. Gweler hefyd 26 Mawrth; 27 Mai
- 16 1881 (Iau) Marw Sarah Emily Daniel, merch 13 oed, John R. ac Esther, Stryd y Santes Fair.
- 15 1874 (Llun) Mariah, gwraig Solomon Blake, Mwldan, 50 oed, yn rhoi genedigaeth i’w 20ed plentyn. Chwaer (neu brawd) bach arall i David, William, Mary, Evan, Benjamin, Solomon, Richard, Thomas, John, etc.