- 14 1894 (Iau) Claddu Scott Freeland Kelly, North Gate House, 42. Gŵr a aned ym Manceinion, prynodd Ffowndri Bridgend ym 1870. Roedd yn beiriannydd ardderchog a chynhyrchodd beiriannau ‘traction’.
- 13 1951 (Mer.) Gŵyl Gerddorol Aberteifi: Perfformiad o Elijah ym Methania. Soprano Joan Alexander; Bass John Dethwick; Contralto Kathleen Joyce; Tenor Ritchie Thomas. Organydd yr Athro Edward Morgan. Mynediad 5/- and 3/6.
- 13 1936 (Sad.) Ymweliad Syrcas Chapman.
- 13 1825 (Llun) Perfformiad o ‘The Honey Moon or How to Rule a Wife!’ gan Mr a Mrs Horsman, Mr a Mrs Frimble, Mr a Mrs Colwell, Mr, Mrs a Master Potter, Mr Nickson, Mr Martin, a Mr Jones – 12 i gyd yn y Theatr, Aberteifi.
- 12 1878 (Mer.) Cynnal Eisteddfod y ‘Semi-National’; roedd y pafiliwn yn dal 5000. Llywyddion yn cynnwys T. E. Lloyd, Coedmor AS a David Davies, AS y Bwrdeistref. Côr Bargod Teifi oedd yn fuddugol yn y cystadleuaeth corau.
- 11 1819 (Gwe.) Llong yr Albion wedi cyrraedd harbwr St John’s, Canada.

- 11 1993 (Gwe.) Marwolaeth y Parchg J. Arwyn Phillips, gweinidog Capel Mair ers Med 1986. Brodor o Lanaman, gwasanaethodd wedyn yn Sardis, Ystradgynlais (1960–67, Bethlehem, Rhosllannerchrugog (1967+) ac Ebeneser (1979+).
- 10 1924 (Maw.) Claddu Alfred Thomas, Patch, 60 oed, ffarmwr wedi ymddeol.
- 9 1939 (Gwe.) Perfformiad o ‘Gwraig y Ffermwr’ gan Gymdeithas Ddramatig Ysgol Uwchradd Aberteifi dan hyfforddiant Miss Gwennant Davies. Yr elw tuag at glirio’r ddyled ar gyrtiau tennis y dref.
- 8 1946 (Sad.) Gwasanaeth ddinesig ym Methania i ddathlu heddwch yn Ewrop a’r Dwyrain Pell.



