22–31 Rhagfyr


Dyna ni – blwyddyn gyfan o ddigwyddiadau!

  • 31 1983 (Sad.) Bon Marche wedi cau. Pan agorwyd y siop yn 1907 “The support of the upper structure of the premises is by an iron girder weighing over five tons, which does away with all columns, and gives additional space internally. It is the first of its kind in Cardigan.”
  • 31 1887 (Sad.)  Adroddiad fod llun mewn crayon gan Frank Miles yn mynd i ymddangos yn rhifyn Ionawr o’r Cassell’s Magazine.
Ail Symudiad
Ail Symudiad
  • 30 1983 (Gwe.) Ail Symudiad – cyngerdd olaf?  Blaendyffryn gyda Eryr Wen, Treiglad Perffaith a Datblygu. Erbyn hyn maent wedi atgyfodi. Hir oes i’r trydydd symudiad!
  • 29 1939 (Gwe.) 146ed yn gadael Aberteifi am Landudno ar gyfer rhagor o hyffordddiant.
  • 28 1879 (Sul) Marw Thomas Morgan, cyfreithiwr, Stryd y Santes Fair, 70 oed.
  • 27 1898 (Maw.) Claddu John James Morris, 19 oed, mab y Parchg T. J. Morris (Capel Mair)
  • 27 1888 (Iau.) Claddu David P. Walters, Y Strand, 52, morwr
  • 26 1936 (Sad.) Aduniad o hen ddisgyblion yn yr Ysgol Uwchradd a gêm o hoci a rygbi. Te yn y Neuadd am 4.00.

    25 1176 (Sad.) Eisteddfod yr Arglwydd Rhys:

    Ac yna y kynhalyawd yr Arglwyd Rys wled arbennic yn Aberteiui, ac y gossodes deyryw amrysson; vn rwg y beird a’r pryd[yd]yon ac arall rwg y telynoryon a’r crythyron a phibydyon ac amryuaelon genedloed kerd arwest. A dwy gadeir a ossodes y vudugolyon yr amryssoneu. A rei hynny a gyuoethoges ef o diruawryon rodyon. Ac yna y cauas gwas jeuanc o’e lys ef y hun y uudugolyaeth o gerd arwest. A gwyr Gwyned a gauas y uudugolyaeth o gerd tauawt. A phawb o’r kerdoryon ereill a gawssant y gann yr Arglwyd Rys kymeint ac [a] archyssant, hyt na wrthladwyt nep. A’r wled honno a gyhoedet ulwydyn kynn y gwneuthur ar hyt Kymey a Lloegyr a Phrydein ac Iwerdon a llawer o wledoed ereill.

    1176 Brut y Tywysogyon

    • 25 (Mer.) 1888

      CAPEL MAIR:

      Cafwyd cyngerdd llwyddiannus nos Nadolig o dan lywyddiaeth y Parchg W. Jones (Maer). Roedd yr adeilad yn llawn a trefn da ar y noson gan y Parchg  T. J. Morris.

      Cyfranodd nifer o bobl leol at raglen y noson, gyda help Eos Myrnach, a pharti o ddynion o Lanfyrnach, ac o herwydd hyn cafwyd y noson mwyaf llwyddiannus ers tro byd. Mae gan Eos Myrnach lais arbennig. Rhaid sôn am “Alone on the raft” . Roedd Parti Llanfyrnach hefyd wedi’u hyfforddi yn dda a chanwyd ganddynt “Comrades Song of Hope,” a “Martyrs of the Arena” – pedwarawd arbennig yn yr olaf a chafwyd encore.

      Ymhlith y bobl leol rhaid restri’r canlynol:

    • Parti Capel Mair (arweinydd Mr. Reynolds);
    • Mr. W. Thomas a’i barti,
    • Mr. D. Charles a’i gyfeillion
    •  Mr. D. Davies a’i gyfeillion
    • Misses Lowther a Letitia Evans, a
    • Mrs. Jones, a Messrs. W. Thomas, D. Thomas (Tyrhos), a T. Lewis.
    • Miss Daniel a Miss Edith Daniel

      Dyma’r Rhaglen:

    •  Deuawd Pianoforte , The Little Sailor, Misses Daniel a Lowther;
    • glee, Croeso’r Boreu, Parti Capel Mair
    • solo, Gitana, Miss Lowther;
    • glee, “Beautiful Rain,” (encore)
    • Mr. W. Thomas a’i barti ;
    • solo, “Llwybr yr Wyddfa,” (encore a chanodd “Bwthyn bach melyn fy Nhad”)
    • Pedwarawd Eos Myrnach “Geiriau Mam,”
    • Mr. D. Charles a’i gyfeillion
    • Mr. D. Davies solo, Baban diwrnod oed,” (encore)
    • Mr. D. Thomas, Tyrhos; cân Darby and Joan
    • Corws Miss Letitia Evans , “Comrades Song of Hope,” (encore)
    • Parti Llanfyrnach solo, Jerusalem,”
    • Deuawd Mr. T. Lewis; “As it fell upon a day,”
    • Misses Lowther ac Evans. Part 2-Glee, Yr Haf,”
    • Parti Deuawd Capel Mair, O Gartref yr Eryr,” (encore a chanodd y ddeuawd o “Blodwen “)
    • Eos Myrnach a Mrs Jones solo, Hen Ffon fy Nain,” (encore)
    • Mr. D. Thomas, Tyrhos; solo, Alone on the Raft,” (encore)
    • Eos Myrnach; corws, “Y Gof,”
    • Parti Llanfyrnach; solo, Pleser-fad Niagara,”
    • Mr. W. Thomas;
    • trio, Tri Chymro,” (encore)
    • Mr. D. Davies a’i gyfeillion corws, “The Martyrs of the Arena,” (encore)
    • Parti Llafyrnach Party
    • finale, Hen Wlad fy Nhadau,” gan Eos Myrnach a chorwas gan y gynulleidfa.

      Wedyn (Dydd San Steffan erbyn hyn siwr o fod!) y diolchiadau gan y Cadeirydd.

    • 25 (Mer.) 1889

      Cyngerdd ym Methania

      Cyngerdd fawreddog a chynulleidfa dda. Darllenwyd llythyr gan Mr. Morgan-Richardson, Noyadd-Wilym, y llywydd i fod ond iddo ymddiheuro nad oedd yn gallu bod yn bresennol ac yn amgau £2 at yr achos. Etholwyd Mr. W. Lewis, Banc Brecon i’r gadeiryddiaeth. Yr arweinydd oedd  Parchg T. J. Morris

      Dyma’r rhaglen:

    • Pianoforte solo, Miss Gwynne, R.A.M. solo, “Baner ein Gwlad,”Gwyn Alaw” (encore  – “My Pretty Jane”);
    • solo, “Remember me,” Miss S. A. Esau;
    • solo, Death of Nelson,” Mr. Wm. Thomas (encore – cân Gymreig);
    • solo, The Blind Girl to her harp,” Miss S. A. Jenkins (encore – “Trip, Trip”);
    • solo, “I had a dream,” Mrs. S. A. Owen;
    • solo, The White Squall,” Mr. W. Jones
    • solo, “O dywed im’, awel y Nefoedd,” Llinos Gwent;
    • cystadleuaeth solo, “Mair Magdalen,” 10 yn cystadlu, 3 yn canu ar y llwyfan, y gorau oedd Miss Lizzie Jenkins, Greenfield-square
    • deuawd, Martial Spirit,” Gwyn Alaw a Mr. William Thomas;
    • Côr plant, Y Galwadau,” 3 chôr, namely, Bethania (arweinydd Mr. William Jenkins), Tabernacle (arweinydd Mr. John James), a Mount Zion (arweinydd Mr. D. Ivor Evans). Y wobr rhwng Bethania a Mount Zion
    • Pedwarawd, Mount Zion Party duet, “Howel, Howet, Llinos Gwent and Gwyn Alaw (encored, and repeated);
    • solo, Pleserfad Niagara,” Mr. William Thomas;
    • solo, Good Shepherd,” Gwyn Alaw
    • cystadleuaeth solo, Y Morwr Lion,” 5 yn cystadlu, y wobr i Mr. William Jones
    • cystadleuaeth côrawl Cwynfan Prydain,” 2 gôr , namely, Tabernacle (Mr. E. Ceredig Evans), and Bethania (Mr. William Jenkins), y wobr i Gôr Bethania
    • cân, Aunty,” Llinos Gwent (encore – The Donkey Cart”)
    • finale, Hen Wlad fy Nhadau.”

      Mae’n deg dweud bod pawb yn edmygu llais soprano Miss S. A. Jenkins (Llinos Gwent) a dylai gael dyfodol disglair os yw’n troi’n broffesiynol. Daeth y cyfan i ben â diolchiadau i’r Cadeirydd, Mr. Morgan-Richardson, y gyfeilyddes , Miss Gwynne , a’r cantorion.

    • 25 (Maw.) 1888 Y WYRCWS. Cafodd y trigolion, trwy haelioni arferol  Mr. Brigstocke, cadeirydd Bwrdd y Gwarcheidwyr, cinio ardderchog o gig eidion, plwm pwdin a chwrw, â dwy owns o dybaco i’r rheini oedd yn smygu ac orenjis i’r rhai nad oedd, ac i’r menywod a’r plant. Mr. Thomas Llewelyn a Mr. Lewis Davies oedd yn gyfrifol am ddosbarthu. Diolchwyd yn daer i bawb. Ar ôl cinio daeth Mr. John James, Llandudoch, a’i gôr heibio a chanwyd nifer o ganeuon er mawr ddifyrrwch y trigolion.
    • 25 1909 Bethania
      Nos Nadolig ym Methania, Aberteifi, 1909
      Nos Nadolig ym Methania, Aberteifi, 1909
    •  25 (Mer.) 2013 Ar y teledu heno: Downton Abbey v. Mrs Brown’s Boys Christmas Special (Ai nôl neu ‘mla’n inni’n mynd?)

      NADOLIG LLAWEN I BAWB SYDD WEDI DILYN Y NODIADAU PITW RHAIN AR HYD Y FLWYDDYN.

      Rhaid meddwl am rywbeth gwahanol erbyn y flwyddyn nesaf. Mwy o gig ar yr esgyrn rhain efallai i ddechrau.

  • 24 1176 (Gwe.) Paratoi ar gyfer y diwrnod mowr fory!
  • 23 1880 (Iau) D. M. Palmer, prifathro:

Rwyf wedi cael y fraint o arholi disgyblion Ysgol y Gramadeg, Aberteifi yn yr ieithoedd Groeg a Lladin, mewn Ffrangeg,  Ysgrythur, a Hanes ac mae’n rhoi pleser mawr imi gyflwyno’r adroddiad canlynol:

Roedd y gwaith gan y dosbarthiadau hynaf mewn Aenid, Virgil, Cicero, De Senectute, ac yn Rhyfeloedd Gaul, Caesar, yn ogystal ag Anabasis, Xenophon yn foddhaol iawn.

Fel rheol, roedd y gwahanol ddarnau o’r gwreiddiol yn ffyddlon iawn i’r Saesneg, er bu rhai yn arbennig iawn o ran cywirdeb.

Roeddwn hefyd yn falch iawn o gywirdeb nifer o’r papurau mewn Gramadeg Ffrangeg.

Ar y cyfan roedd cyfieithiadau  o’r darnau o Charles XII yn gywir.

Dyddiau da cyn y PISAS a’r SATS

  • 22 1897 (Maw.) Claddu Pritchard Evans, Stryd Napier, mab 1 mlwydd oed Evan y saer

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s