- 7
- 6 1968 (Mer.) Torri’r dywarchen gyntaf ar safle’r Eglwys Gatholig newydd. Contract o £49, 700.
OFFEIRIAID:
- Joseph Higgins 1930-32
- John Tole 1932
- Wilfred Brodie 1932-3
- Basil Rowlands 1933-36
- Thomas Williams 1936
- Joseph Wedlake 1937-9
- Thomas Canning 1940
- James McAniff 1941
- B. O’Connell 1942-5
- Phillip Dwyer 1946-7
- William Andrews 1947
- Albin Kaltenbach 1947-51
- George A. Anwyll 1951-9
- Raymond Joyce (curate) 1951-9
- John McHugh 1950-61??
- Arthur Davies 1961
- Seamus Cunanne 1962-99
- Augustine Paikkatt 1999-2003
- Jason Jones 2003-Paul Joseph

- 6 1912 (Mer.) Y Pav yn agor – gan y maer Ivor Evans am 7.30. Yn y toriad canwyd ‘Martyrs of the Arena’ gan Barti Meibion Aberteifi (yr arweinydd oedd H. H. Evans). Mynediad am 3c, 4c, a 6c. Plant hanner pris. Y gweithwyr cyntaf oedd Harold Squibbs; Ceidwad y neuadd a’r drws: Tom White Jones; Gofalu am y blwch talu: Fred Mulraine; Pianydd: Morien Peregrine; Gofalwyr tu fewn : John L Griffiths, W. Johnson; peirianydd: Owen Williams
- 6 1908 (Gwe.) Claddu John Conwyson Roberts, 20 Stryd y Cei, 67 oed. Ei fab, David Owen Conwyson Roberts sefydlodd y cwmni o argraffwyr a ‘r siop gwerthu papurau newydd ‘J. C. Roberts & Son’, yn 9 Stryd Fawr.
- 5 1895 (Maw.) Claddu Charles Allen, crwydryn, 50 oed o’r Wyrcws yn Llandoch.
- 4 1895 (Llun) Ysgol ar gyfer Bechgyn yn agor dros dro yn yr Ysgol Ramadeg. Staff yn cynnwys y prifathro Mr. D. M. Palmer, BA; Mr Charles Owen, BA a Miss Gladdish, BA. 30 o fechgyn yn bresennol ar ddiwrnod yr agoriad. Yn ddiweddarach ym 1896 dechreuodd 17 o ferched mewn stafell wag yn Ysgol y Bwrdd, Pendre. Agorwyd y Cownti Sgwl ar 23 Medi 1898.
- 3 1964 (Maw.) Cardigan Arms yn ail agor am 11.30 y bore – perchnogion newydd – Mrs. M. Owen, Avondale.

- 2 1984 (Gwe.) Y Pav fel sinema yn cau. Diwedd cyfnod yn hanes diwylliannol y dre.
- 1 1950 (Mer.) UFOs yn hedfan dros Aberteifi. Gwelodd Mrs G. James, Caffi Finch Square a Miss M. Mathews cylchoedd rownd, oren – heb gwt na sŵn. Roedd tua 7.30 p.m. y nos.