Pobl Aberteifi 6: Ysgol Fach y Mwldan

Misson Hall, Mwldan, c. 1930au

7 Hydref (1896) Gwynt, glaw, llanw uchel = llifogydd

  • 7 1896 (Mer.) Gwynt cryf, glaw trwm a llanw uchel yn achosi llifogydd difrifol yn y dref, nenwedig yn ardal y Mwldan, y Strand, Stryd Santes Fair, ac o gwmpas y Bont. Methodd trên 7.30 a chyrraedd tan 9. Erbyn 9.40 gwaethygodd y sefyllfa fel nad oedd yn ddiogel i’r trên adael yr orsaf. Dim llythyron na phapurau newydd tan Dydd Iau am 1.30.

20 Awst (1936) Ymweliad C. W. A. Scott â’r dre

  • 20 1936 (Iau.) Ymweliad C. W. A. Scott i’r dref. Peilot oedd Scott a enillodd y ras awyr gyntaf rhwng Lloegr ac Awstralia. Rhoddodd arddangosfa hedfan yn Parcylan, Tredefaid.
  • 20 1939 (Sul) Llifogydd yn y Mwldan
  • 20 1966 (Sad) Noson Fenisaidd yn Aberteifi yn denu miloedd i lan yr afon. Roedd y Teifi yn debyg iawn i’r Grand Canal!
  • 20 1984 (Llun) Newyddion fod Paul Ringer yn gorffen chwarae rygbi