Fuoch chi’n dawnsio gyda George Child-Villiers?

Daily Mirror, 2.9.1939

Pwy oedd George Child-Villers? Dyma beth sy yn Wikipedia:

On his father’s death at Middleton Park in December 1923, he succeeded as the 9th Earl of Jersey and inherited nearly 20,000 acres of land in England. Lord Jersey was a clerk with Glyn, Mills & Co. in 1932 and served as chairman of Wallace Brothers Sassoon Bank. He fought in World War II, gaining the rank of Major in the Royal Artillery of the Territorial Army. The 9th Earl gave Osterley Park in Hounslow to the nation in the late 1940s.
Lord Jersey was married three times and twice divorced. He married his first wife, Patricia Richards (1914–2017) of NSW, Australia on 12 January 1932.
A week after his divorce was finalized, Lord Jersey married American actress Virginia Cherrill on 30 July 1937 at the Chelsea Register Office. She was the ex-wife of actor Cary Grant. They divorced in 1946.
His third and last wife was Bianca Luciana Adriana Mottironi (d. 2005), whom he married on 16 October 1947. She was the eldest daughter of furniture maker Enrico Mottironi of Via Goffredo Casalis in Turin, Italy.

Neb o Aberteifi felly!

Guildhall 2:

Gyda’r Cloc:
1 Y Farced yn yr hen ddyddiau (1880au)
2 Y Teifi-seid yn adrodd ar gynlluniuau i osod bloc sawl llawr yng nganol y dref – yn lle’r Guildhall (1960au)
3 Cyfarfod o’r Pwyllgor Efeillio Aberteifi a Brioude ym mhresenoldeb y maer a’r faeres Mr a Mrs Berwyn Williams, a’r aelod seneddol ar y pryd Mr Elystan Morgan.
4 Y Guildhall fel gorsaf pleidleiso.
5 Hen iard y farced.

Diolch i Keith Ladd

31 Awst (1892) Y cloc yn cyrraedd

Cloc y Dre
Cloc y Dre

31 1892 (Mer.) Dadorchuddio’r Cloc gan y maer Davies Davies, Stanley House. Diwrnod mowr yn y dre a gwyliau am y prynhawn. Gwneuthurwr y cloc oedd Messrs Smith a’i feibion o’r Midland Clock Works yn Derby. Cynlluniwyd y tŵr gan Richard Thomas, Roseleigh ac adeiladwyd gan J. Richards, saer o Llandudoch, John Evans, masiwn, Stryd yr Eglwys. Cyflenwyd y slab â’r arysgrifen gan Thomas Jenkins, stonecutter, Gordon Terrace.

Mae’r cloc yn un defnyddiol

I bobl tref a gwlad

Ca’nt wybod beth yw’r amser

A hynny’n rhodd a rhad;

Mae’r olwg arno’n hyfryd

A llon, mae’n harddu’r lle.

Aiff Davies ddim yn angof

Tra paro Cloc y Dre.

Am 7 p.m. cyfle i gael tamed o fwyd yn y Llew Du. Roedd y stafell yn hyfryd a’i lond o faneri, a blodau. Cafwyd gwledd arbennig i 100 o foneddigion a dynion busnes y dref, gan y perchennog Mrs Trollip. Ond roedd rhaid i’r gweithwyr (c. 40 o nifer) neud y tro â’r Fat Ox  – a diolch i Mr D. Luke am baratoi cystal ar fyr rybudd.

Yn wreiddiol y bwriad oedd cael 3 wyneb yn unig. Cyfeiriwyd at hyn mewn pennill gan John Sharpe, y Syrfeiwr:

All hail! thou latest chronicler of time!

Deign thy attention to my modest rhyme;

I have some little thing I want to say,

And could not hit upon a better way

Than to address them to you, for the lack

Of closer confidant. You can’t hit back.

And as for these my counsels- weigh them well!

Maybe you’ll act upon them-time will tell.

And first, I’m very pleased to see you there

With face so bright and clean, and debonair-

Face did I say? Good gracious! You had three,

And each one as like the other as could be;

But then our Mayor, so anxious to do more

Refixed your inside gear and gave you four.

 

You cannot be two-faced, whate’er you do

The only thing you can be is two-too–

And two and two is four. And then, you see

That your fourth face must watch the other three

And should your High St face get fast and frisky

Or Mwldan go just slightly on the whiskey

And so lose time; your Pendre face must frown

And Priory Street face stare the offenders down

But what would happen if in spite of all endeavour

Your whole four faces should go wrong together

I can’t surmise; unless Tobit should wave his

Mace and give them in charge to Sergeant Davies.

8 Gorffennaf (1858) Gosod carreg sylfaen y Guildhall

Gosod carreg sylfaen y Guildhall, 1857
Gosod carreg sylfaen y Guildhall, 1858

  • 8 1858 (Iau) Gosod carreg sylfaen y Guildhall gan y maer , Yr Hendaur R. D. Jenkins, Priordy Aberteifi, am 2.00. Canwyd clychau’r Eglwys; taniwyd y cannon 3 gwaith ar y Netpool gan Stevens a Macdonald – hen filwyr; yr heddlu yn ngofal y drefn gyhoeddus; y ‘town crier’ i gyhoeddu llwybr yr orymdaith noswyl yr achlysur am 6 o’r gloch.