Saturday Night at the Black – Llyfr newydd

Aberteifi yn y chwedegau gwyllt!
Aberteifi yn y chwedegau gwyllt!

Saturday Night at the Black: Cardigan in the Swinging Sixties. Llyfr 183 o dudalennau; dros 100 o luniau, nifer mewn lliw, gan William H. Howells. Pris £10. Argraffwyd gan E. L. Jones, Aberteifi. ISBN 978 1 78280 7698

Odi Aberteifi a’r ardal yn barod am hwn?

Mae’n stori ryfeddol! Y cefndir cychwynnol yw’r cysylltiad agos rhwng rhai o gymeriadau’r dref a chymeriadau’r byd cerddorol oedd yn datblygu yn Lerpwl ar y pryd. Pobl fel y dramodydd Alun Owen, a ddaeth i fyw yn Llandudoch rhwng 1963 a 1967; Allan Williams, rheolwr cyntaf y Beatles; Bill Harry, golygydd y papur dylanwadol y Mersey Beat; Bob Wooler, DJ enwog y Cavern yn Lerpwl; a George Melly, a brynodd dŷ gwyliau ym Mhen-y-bryn. Croesawyd y criw brith yma, ynghyd â’u partneriaid, yn gynnes gan Frank Aspinall, perchennog y Blac Leion, a chyda’u cymorth hwy llwyddodd i drefnu bod bandiau o Lerpwl yn tyrru i Aberteifi i chwarae yn y Blac.

Cewch restr lawn o’r grwpiau a ddaeth yno rhwng 1963 a 1973. I ddechrau o’r Cavern, yn Lerpwl y deuent – sawl un wedi ennill eu plwyf yn y Kaiserkeller a chlybiau eraill yn Hamburg. Ŷch chi’n cofio’r noson y daeth Screaming Lord Sutch i’r dre? Beth am Rory Storm a’r Hurricanes; Ian a’r Zodiacs; y Clayton Squares; Vince Earl a’r Talismen; Freddie Starr a’r Nightriders; Sony Webb a’r Cascades; Derry Wilkie a’r Pressmen; y Kirkbys; y Masterminds, y Chessmen a’r Kinsleys a nifer fawr o rai eraill?

Yn ddiweddarach deuai grwpiau o dde Cymru: chi’n cofio James Hogg; yr Iveys; Haverson Apricot; Peter Shane a’r Vikings – heb anghofio’r bandiau lleol megis Ricky a’i Raiders a Strawberry Maize?

Bob nos Sadwrn deuai tua 200 o bobl ifainc i mewn i’r dre o ardal eang sir Aberteifi, sir Benfro a sir Gaerfyrddin i ddawnsio, i wrando ar gerddoriaeth ac i fwynhau. Ond nid pawb oedd yn hapus gyda’r datblygiadau hyn. Roedd rhieni’n anfodlon fod eu plant yn mynychu’r fath le, a chynghorwyr parchus Aberteifi yn anhapus fod y Blac yn dod ag enw drwg i’r dre.

Nid yw Aberteifi wedi gweld dim byd tebyg, na chynt nac wedyn.

Darllenwch y gwir am gysylltiad y Beatles a Gŵyl Fawr Aberteifi!

Darllenwch am y cysylltiad agos rhwng ‘A Hard Day’s Night’ a Llandudoch.

Cewch agoriad llygad wrth ddarllen tystiolaeth nifer o’r trigolion a fu’n rhan o’r bwrlwm.

Allan yn siopau NAWR £10.

neu gallwch ebostio netpool1960@gmail.com er mwyn archebu trwy’r post £12.50.

 

20 Mai (1966) Roderic Bowen ddim yn sefyll eto!

  • 20 1990 (Sul) Cymanfa Ganu Annibynwyr Aberteifi a’r cylch. Cymanfa’r Canmlwyddiant. Arweinydd John S. Davies
  • 20 1966 (Fri.) Mewn cyfarfod yn Aberaeron y cyn AS Roderic Bowen yn penderfynu peidio sefyll eto.

Etholiad Cyffredinol 1966

D. Elystan Morgan (Llafur) 11302 (37.1%)

Roderic Bowen (Rhydd.) 10779 (35.4%)

J. Stradling Thomas (Tori) 5893 (19.4%)

E. G. Millward (PC) 2469 (8.1%)

  •  20 1684 (Tues.) Good Behaviour o Aberteifi,  meistr Thomas Freeland, yn hwylio a llwyth o win, cwrw a samwn i Lundain.

4 Mawrth (1949) Athro T. J. Morgan, Coleg Cambria yn sâl

  • 4 1949 (Gwe.) Oherwydd straen yn dilyn gweithio gormod mae’r Athro T. J. Morgan, Coleg Cambria yn dioddef o anhwlyder nerfau. Mae wedi derbyn cyngor meddygol i ganslo pob trefniant cyhoeddus. Yn ddiweddar cyhoeddodd lyfr o farddoniaeth a darnau adrodd ac wrthi yn paratoi Llyfr Gosod yn y Gelfyddyd o Feirniadu.
  • 4 1949 (Gwe.) Gwleidyddion yn siarad!

‘Rwy’n derbyn llythyron dyddiol oddi wrth Toriaid yn sir Aberteifi, yn nodi eu bwriad i gefnogi fi yn yr etholiad nesaf’ Roderic Bowen AS

‘Yn ystod fy nghyfnod fel ymgeisydd mae’n rhyfedd y nifer o Ryddfrydwyr yn y sir, a nifer sydd wedi cefnogi’r achos Rhyddfrydol am flynyddoedd lawer, sydd wedi dod ata’i yn gwbl rhydd ac sy wedi dymuno’n dda i fi’ Dr S G Little, ymgeisydd y Toriaid.

‘Mae’r gobaith i Sosialaeth yn sir Aberteifi yn llachar iawn. Bob dydd mae ffermwyr yn dod drosodd i’n hochr ni’, Iwan Morgan, ymgeisydd Llafur.

Adroddiad Tivy-side  ON Roderic Bowen ennillodd yn yr etholiad nesaf (1950 – tan 1966)

  • 4 1949 (Gwe.) Hysbyseb yn y Tivy-side: Gwasanaeth Llyfrgell arbennig: W. H. Smith, 18 Heol Fawr, Aberteifi. Ymunwch â llyfrgell gorau Lloegr – HEDDIW!

Dewis £3  (12 mis); 35/-  (6 mis)

Post   30/- (12mis); 17/6  (6mis); 10/6 (3 mis)

Dosbarth A 25/- (12 mis); 14/6 (6 mis); 9/- (3 mis)

Dosbarth B 12/6 (12 mis); 7/- (6 mis);  4/- (3 mis)

12 Ionawr (1964) Bethania ar dân

  • 12 1964 (Sad.) Tân ym Methania o dan y Capel lle roedd y boiler.
  • 12 1910 (Mer.) Etholiad Cyffredinol: Cyfarfod Cyhoeddus yn y Guildhall Vaughan Davies AS; Athro Levi, Aberystwyth; D. Davies, Treforgan, Y Parchg J D Hughes, Blaenwaun. Cadeirydd Y Parchg John Williams, Bethania.
  • 12 1876 (Mer.) Bu farw Dr. William Lane Noot, yn 71 oed.