21 Mehefin (1982) Marw cyn faer yn Rwsia

J. Griffith Watts
J. Griffith Watts
  • 21 1982 (Llun) J. Griffith Watts yn marw tra ar wyliau yn Rwsia. Wedi ymddeol fel swyddog inswrans, roedd yn aelod o gyngor y dref a gwasanaethodd fel maer 1972–3.
  • 21 1973 (Iau) Cyfle olaf i weld ‘Cilwch Rhag Olwen’ , gan W. R. Evans yn Ŵyl Fawr Aberteifi.

13 Mehefin (1951) Gŵyl Gerddorol Aberteifi

  • 13 1951 (Mer.) Gŵyl Gerddorol Aberteifi: Perfformiad o Elijah ym Methania. Soprano Joan Alexander; Bass John Dethwick; Contralto Kathleen Joyce; Tenor Ritchie Thomas. Organydd yr Athro Edward Morgan. Mynediad 5/- and 3/6.
  • 13 1936 (Sad.) Ymweliad Syrcas Chapman.
  • 13 1825 (Llun) Perfformiad o ‘The Honey Moon or How to Rule a Wife!’ gan Mr a Mrs Horsman, Mr a Mrs Frimble, Mr a Mrs Colwell, Mr, Mrs a Master Potter, Mr Nickson, Mr Martin, a Mr Jones – 12 i gyd yn y Theatr, Aberteifi.

6 Ebrill (1912) Marw William Roberts, awdur y dôn Bryngogarth

William Roberts1862–1912
William Roberts
1862–1912
  • 6 1988 (Mer.) Marw Wyn Jones, awdur Yr Hen Lwybrau a storiau eraill (Gomer, 1966)
  • 6 1951 (Fri.) Cardigan Society’s First venture: ‘The Long Mirror’
  • 6 1912 (Sad.) Marw William Roberts, awdur y dôn Bryngogarth, 50 oed

William Roberts (1862–1912)

[Addasiad o deyrnged y Parchg Esaia Williams, 19 Ebrill 1935, CTA]

Ganed William Roberts ar 1 Hydref 1862 mewn ty o’r enw Farmers’ Arms, Penybont, Aberteifi. [21 Stryd y Castell]

Brodor o Aberteifi oedd John Roberts, ei dad.  Maged ef yn Heol Fair. Morwr oedd ef yn ôl ei alwedigaeth a threuliodd ei oes ar y môr. Mary Roberts oedd ei fam, yn wreiddiol o Rafael, ger Blaenffos. Roedd ganddynt bedwar o blant: Mary Ann, William arall a fu farw’n ifanc, Sarah Lizzie a William. Bu fawr eu mam yn ifanc iawn a chafodd y plant eu codi gan chwaer eu mam Mrs Martha Roberts.

Dyn bychan ei gorff oedd William, ac anffurfiwyd ei gorff trwy ddamwain a gafodd pan oedd yn faban. Roedd ei gefn yn grwca. Derbyniodd ei addysg gynnar yn y British School a gynhelid yn yr hen Fethania (Caffi Central). Edward Hughes (Iorwerth Penfelyn ) oedd yr ysgolfeistr. Dyn rhagorol.

Ar ôl ychydig o addysg aeth William Roberts at ddyn o’r enw Griffith Griffiths, Castle Street i ddysgu ei grefft fel gwneuthurwr dodrefn. Bu’n gweithio wedyn gyda David Lewis, Llanifor, Penyparc, dros y ffordd y tu ol i’r Eagle Inn. Bu yma am rai blynyddoedd, ond oherwydd gwendid corfforol gorfod iddo roi heibio crefft saer. Ar ôl blynyddoedd cychwynodd fasnach iddo’i hun yn Heol y Bont, a pharhaodd felly hyd derfyn oes. Tynnwyd y siop i lawr c. 1933. Safai gyferbyn a Heol y Cei, yr ochr arall i’r ffordd.

Nid oedd yn nodedig am ei ddoniau cyhoeddus, ond ni bu neb erioed teyrngarach nag ef mewn eglwys. Un o’r rhai mwyaf addfwyn, diniwed a thyner galon, ac eto, pan fyddai galw am sefyll dros egwyddor yr oedd mor ddewr a llew, ac yn uchel ei brotest yn erbyn pechod ymhob ffurf arno.

Fel cerddor y daeth yn amlwg. Tua 1882 gwahoddodd rhai o gerddorion Bethania Mr Benjamin Lewis, Blaenanerch i gadw dosbarth Solffa yno. Ymunodd William Roberts â hwn. Yr oedd Benjamin Lewis yn gerddor gwych. Erbyn diwedd y tymor yr oedd pob un o ddosbarth a rifai 50 yn medru rhedeg unrhyw dôn ar yr olwg gyntaf arni. Yn ddiweddarach ymfudodd Benjamin Lewis i’r America.

Wedi cael blas ar gerddoriaeth daliodd ati. Ei offeryn cyntaf oedd y chwibanogl (fife). Wedyn y crwth. Digwyddodd i frodor o’r Eidal ddod drwy strydoedd Aberteifi ryw ddydd, a chwarae rhyw fath o delyn. Buan y daeth ei seiniau melys o’r stryd agored i glustiau William Roberts yn yr ystafell uwchben ei siop. Tarodd bargen â’r Eidalwr a daeth yn berchenog y delyn.

Dechreuodd gyfansoddi. Cychwynodd ef ac eraill gerdded i Gilgerran i ddysgu chynghanedd gan y Parchg W. Cynon Evans G. & L, a’i wraig. (Blaencwm, Rhondda yn ddiweddarach). Ni orffwysodd nes cael cerddorfa i’r dref. Bu’n aelod ffyddlon o’r Cardigan Male Voice Party, o dan arweiniad William Thomas, Carningli.

Tonau a gyfansoddodd: Bryngogarth, Blaenffos, Glanteifi, Llandudoch, Rhosgerdd, Cemaes, Bridge Street, William

I BLANT: Clodfori’r Gwaredwr, Dewuch ataf fi, Annwyl Iesu

Ei dôn enwocaf oedd Bryngogarth:

Bryngogarth
Bryngogarth

Bu’r diweddar Barchg John Williams ryw dro yn ei gerbyd yn pregethu yn Sir Befro, ac wrth ddod adref yn hwyr, gwelai olau yn ffenestr William Roberts, ac wrth basio trawodd y ffenestr a’i chwip. Bore trannoeth aeth i weld William Roberts, ac meddai: ‘Beth ichwi’n wneud lawr mor hwyr y nos? O! Mr Williams, y chwi oedd yna neithiwr. A dweud y gwir, rhoi finishing touches i dôn ar y geiriau ‘Angrhediniaeth, gad fi’n llonydd, yr oeddwn i’.

Galwyd y dôn honno yn Bryngogarth ar ôl enw cartref y diweddar Barch John Williams.

Bu farw 6 Ebrill 1912. Claddwyd ef ym mynwent Blaenffos. Maen coffa : Cerddor W. P. Roberts, Aberteifi. Awdur y dôn Bryngogarth.  A fu farw Ebrill 6, 1912, yn 50 oed.

Y Parchg Aaron Morgan:

  • Un hysbys oedd yn nosbarth – y gân fwyn,
  • Gwyn ei fyd, frawd diwarth;
  • Tra cenir nis gwelir gwarth
  • Yn gwgu o’i Fryngogarth

3 Mawrth (1949) Drama yn y Pav

3 1949 (Iau) Gŵyl Ddrama gan gwmniau enwocaf Ceredigion (yn y Pav). Y Pibydd yn y Maes, T. C. Murray; cyf. gan Nan Davies gan Gwmni Aelwyd Aberystwyth; Y Ty ar y Rhos, Amy Parry-Williams gan Gwmni Talybont; Adar o’r Unlliw, J. O. Francis gan Gwmni Beulah (T. Tegryn Davies). Also two one act plays by St Mary’s Cymry’r Groes: The Other side of the wall, P. M. Bentley; and Uncle Joseph, J. B. Trenwith. Arweinydd T. Tegryn Davies. Trefnwyr y llwyfan: Fred Lewis, Garfield Thomas, Lemuel Morgan.

Llywydd Y Cyng. W. L. Davies, Pantyderi; Cardeirydd Hen. Hubert M. Davies DL, CadeiryddPwyllgor Addysg Ceredigion.

Drysau ar agor am 6.30. Dechrau am 7.00 yn brydlon; 5/- a 3/6 seddi cadw; 2/6

Tocynnau oddi wrth Nance Jones, Welsh Stores. Ffôn 191 (rhag ofn fod tocynnau ar ôl!)

Elw tuag at Gronfa’r Neuadd Goffa. Pwyllgor: Cyngh Jenkin Richards YH, maer, Trysorydd: Nance Jones; Ysgrifennydd: J. H. Johns.