12 Gorffennaf (1888) Medal i William Niles

  • 12 1900 (Iau) Claddu John Turner Mathias, Feidrfair, 43, gwerthwr esgidiau
  • 12 1888 (Iau) Dyfarnwyd medal arian i William Niles, gwirfoddolwr gyda’r bad achub am 29 o flynyddoedd. Achubodd 85 o fywydau.
  • 12 1853 (Maw.) Marw Isaac Thomas (1820–53), cyhoeddwr Almanac y Cymro. Argraffwyd gan D. Leary & Co., Dulyn er mwyn osgoi treth argraffu. Claddwyd ym mynwent Capel Penybryn.

30 Mawrth (1985) Bwcis y dre yn llefen fel babis!

  • 30 1985 (Sad.) Diwrnod mawr Hywel Davies yn ennill y Grand National ar Last Suspect. Pwy enillodd 50-1?

Hanes Grand National 1985

Hanes Last Suspect

Cyfle i weld darn olaf y ras

  • 30 1970 (Llun) Tudor James, 7 Stryd y Priordy yn dechrau rownd bapur yn lle J. C. Roberts, Stryd Fawr.
  • 30 1908 (Llun) Sefydlu y Seiri Rhydddion yn Aberteifi.  Ymhlith yr aelodau cynnar oedd y canlynol: William Woodward, David Davies, cyfreithiwr, Llewelyn Davies, ysgolfeistr, D. Lloyd Jones, rheolwr banc, G. W. Potter, Dr George E. Jones, Jenkin Jones, H. Nicholson, a M. L. Jones.

 

29 Mawrth (1987) Ail agor Y Tabernacl; (1877) Lansio Y Llong Lestri

Rhaglen Cyfarfodydd yr Ail Agor, 1987
Rhaglen Cyfarfodydd yr Ail Agor, 1987
Rhaglen Cyfarfodydd yr Ail Agor, 1987
Rhaglen Cyfarfodydd yr Ail Agor, 1987
Rhaglen Cyfarfodydd yr Ail Agor, 1987
Rhaglen Cyfarfodydd yr Ail Agor, 1987
  • 29 1987 (Sul) Ail agor Tabernacl – ailadeiladwyd 1776, 1807, 1832; adnewyddwyd 1864, 1902, 1986.
  • 29 1885 (Iau) Marw Jane Thomas, perchennog y Tivy-side. Claddwyd Dydd Iau 2 Ebrill.
  • 29 1877 (Iau) Lansio y Margaret & Ann ( Y Llong Lestri). Dyma’r llong olaf a adeiladwyd yn Aberteifi. Y perchenogion oedd Capten Evan Parry, Tresaith ac Owen Jones, masnachydd, Llangrannog.  Adeiladwyd gan John Williams a’i fab. Suddwyd yn 1919.