Pobl Aberteifi 54: Seamus Cunnane (1929-2021)


Gwasanaethodd y Tad Seamus Cunnane fel offeiriad Catholig plwyf Aberteifi am 37 mlynedd o 1962 tan 1999. Roedd ei gyfraniad i bob agwedd o fywyd Aberteifi yn sylweddol ar hyd y degawdau. Adeiladwyd yr Eglwys Gatholig a’r neuadd yn ystod y 1970au a chymerodd y Tad Cunnane ran amlwg yn y cynllun i godi arian tuag at y prosiect. Heb os, bydd ei gyfraniad oes i’r Eglwys Gatholig yn cael ei drafod mewn mannau eraill.

Fel hanesydd lleol brwd aeth y Tad Cunnane ati i ymchwilio i hanes tref a chastell Aberteifi ac mae’n werth rhoi sylw i’w rôl arloesol yn datgelu gorffennol canoloesol Aberteifi. Roedd ei wybodaeth o Ladin a’i Gymraeg rhugl yn caniatáu iddo ymchwilio’r ffynonellau gwreiddiol, ac roedd hyn yn sylfaenol. Rhaid peidio â dibynnu ar ffynonellau eilaidd.  Yna, ar ôl darganfod y ffeithiau rhaid oedd mynegi’r gwirionedd yn eglur. Dywedai ei farn yn ddiflewyn-ar-dafod.

Nôl ym 1992 ysgrifennodd: “Am dros 10 mlynedd rwyf wedi dysgu hanes lleol ac nid wyf eisiau i neb wyrdroi’r gwaith gan ddefnyddio teitlau a disgrifiadau anghywir y bydd plant ysgol ac eraill yn siwr o ddilyn.”

Nid oedd ganddo fawr o feddwl o Cardigan Priory in the Olden Days gan Emily Pritchard, 1904. 

“This was taken apart in 1905 when a reviewer commented: ‘The opening words of the first chapter are at once an indication of the author’s unfitness for her task.’ The trouble is that reviews disappear while the book remains and continues to mislead.”

Ysgrifennodd nifer o erthyglau arloesol am hanes Aberteifi yn y Canoloesodd:

‘Ceredigion and the Old Faith’, Ceredigion, vol 12, 2, 1994, 3-34

‘The Topography of Mediaeval Cardigan’ in Carmarthenshire and Beyond: Studies in History and Archaeology in memory of Terry James, ed. Heather James and Patricia Moore, 2009, 204-23

Ef hefyd oedd awdur:

Our Lady of Cardigan: a history and memoir, E. L. Jones, 2006, 56pp.

Roedd yn mwynhau sgrifennu a dadlau ei achos yn y Teifi-seid, gan anghytuno â gweithiau cyhoeddedig ar hanes Aberteifi gan amaturiaid a haneswyr academaidd o bwys.

Dyma restr o rai o’i erthyglau a llythyron ac ambell sylw:

‘The Four Gates’
Hanes y Teifi Gate; Wolf Gate; Bartholomew Gate a’r New Gate.
31 Rhag1982

‘Llywelyn ein llyw olaf’
Cysylltiad Llywelyn â’r dref.
Rhagfyr 1982

‘Pride of the Town’
Hen bryd neud y Castell yn ganolog ym mywyd y dre.
29 July 1983

Adolygiad o The Towns of Medieval Wales, Ian Soulsby, 1983:
Gan ddechrau drwy ganmol y gwaith, mae’n mynd ymlaen: “the book contains serious errors because [the author] relies on articles and books, some of which are wrong, instead of going to the primary sources. Twice he misunderstands the sources he uses and thus invents new errors.”

  • ‘It is likely that … (Gilbert de Clare) founded the Benedictine priory and St Mary’s Church…’ He certainly didn’t.
  • ‘In 1165 the Welsh under Rhys ap Gruffudd expelled the English monks from their priory…’ No evidence (apart from Emily Pritchard’s book).
  • ‘burgage figure of 172 in 1308’. The figure of 172 is suspect.
  • ‘Here also (near College Row) was the North Gate … standing in 1843.’
    A misunderstanding of W. E. James’s Guide Book (1899) where he is referring to the turnpike gate at the top of Pendre.
  • Town walls: ‘At the corner of College Row and Queen’s Tce the wall turned south along the Mwldan’. Not quite.
  • On St Mary’s St he is absolutely wrong.
  • On Chancery Lane he is even more grievously in error.

Ei ddyfarniad: “in a future edition rewrite the Cardigan section.”
29 Gorffennaf 1983

‘Throwing new light on the history of Cardigan.’
Mewn ymateb i gwestiynau yng ngholofnau wythnosol y Parchg D J Roberts yn y Teifi-seid am hanes y dref, mae’n esbonio gwreiddiau’r Mwldan, Pendre, Bartholomew Gate a Wolf Gate.
15 Chwefror 1985

‘Henry Tudor’s march through Cardigan 500 years ago’
Disgrifiad manwl o fywyd yn Aberteifi adeg ymweliad Harri Tudor.
09 Awst 1985

‘In defence of Welsh history’
Ysgrifennodd: “Today you (Teifi-seid) published an article on the medieval history of Cardigan and its castle called ‘The lock and stay of all Wales’ on a page carrying the rather incrongruous title ‘News Extra’. Much of it was indeed news to me, but only in the sense that it is demonstrably untrue.”

Ar ôl 12 pwynt o sylwadau mae’n gorffen: “It is time to show respect for fact, and it is a pity that the Tivy-side showed such little regard for it…”
1 Mehefin 1990

‘The Mystery of Dydd Iau Mawr (Great Thursday) celebration at Aber-porth.’
Roedd Dydd Iau cyn y 15ed Awst bob blwyddyn yn ddathliad Gatholig  (yr Ŵyl Fair Gyntaf).
9 Awst 1991

‘Statue not an idol and not adored’
Anghytunai’r Tad Cunnane â disgrifiad yn Arddangosfa’r Time Tunnel ‘the existence of the idol: The Lady of the Taper’. Ei sylw: “That is an untruth.  The statue was not an idol and was not adored.”
4 Medi 1992

‘The day they hanged the vicar’
Disgrifiad o achos Syr Hugh David Coch, ficer Llanarth, a’i ffawd o gael ei grogi, a’i ddarnio ar Banc y Warren yn 1592. 
28 Mai 1993

‘Cardigan development plan good news but…’
Ysgrifennodd: “We do not want hamfisted ‘development’ that ruins our heritage”
(â ymlaen i esbonio ystyr wreiddiol yr enw Chancery Lane neu Suitor’s Lane).
21 Gorffennaf 1994

‘Monks arrived via Cardi Bach’
Mae’n cywiro rhai anghysondebau mewn rhaglen deledu am fynachod Benedictaidd yn  Noyaddwilym gan ychwanegu’r sylw: “Many locals did not like them, including the Tivy-side editor and several correspondents, but we must not tar everyone with the same brush.”
5 Gorffennaf 1996

‘Don’t dump part of our town’s history’
Ysgrifennodd: “Ceredigion wants to dump responsibility for a road named Bingham Lane. But there is no such place. Its name is Feidrfair … [and it is part] of the great medieval pilgrim route from Bardsey Island to St David’s.

Ceredigion [County Council] should publicise and enhance it. Instead it is ducking responsibility and some of us think this is shameful.”
27 Tachwedd 2012

Rhai blynyddoedd yn ôl mynychais ddarlith gan yr Athro Ralph Griffiths dan nawdd Cymdeithas Hanes Ceredigion yn y Neuadd  Gatholig. Roedd ei ddisgrifiad o Aberteifi yn ystod y Canol Oesoedd yn ddiddorol ond yn ystod y sesiwn gwestiynau yn dilyn y ddarlith roedd yn amlwg pwy oedd yr arbenigwr ar Aberteifi. Ar y ffordd mas dywedodd rhywun: ‘Sai’n credu fod nhw wedi dewis y dyn iawn i draddodi pnawn yma.’

Nid y Canol Oesoedd oedd ei unig ddiddordeb. Wrth ymchwilio i hanes y ‘swinging sixties’ yn y dref roedd yn falch o gyfadde wrthyf iddo siglo llaw yr enwog Screaming Lord Sutch pan ddaeth i berfformio yn y Blac Leion yn Ebrill 1964.

Mae’r stori llawn am hanes cynnar Aberteifi eto i’w dweud, ond gosododd y Tad Cunnane seiliau cadarn ar gyfer haneswyr y dyfodol.

Cwsg Mewn Hedd Seamus Cunnane.

TEYRNGEDAU

Cannon Cunnane – Chwarewr GWYDDBWYLL

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s