Capel y Tabernacl 1760-2022

Gweindiog a Blaenoriaid y Tabernacl, 1960
Ch-Dde (sefyll) : J. E. Thomas, y Fet; Sam Jones, Aberdar; Aneurin James, Stepside; Tom Owen; Alban Thomas; John Bevan, Hen Gastell; Tom Williams, yr olew.
Miss Gwen Evans MBE; Y Parchg Currie Hughes; J. T. Evans

DECHREUADAU
1739 Howel Harris a George Whitfield yn pregethu yn Aberteifi1740 trwyddedu ty Rachel Evans fel man addoli1741 Ymweliad gan Howel Harris
1743 Ymweliad gan Howel Harris a Daniel Rowland1760 Adeiladu y Capel cyntaf1770 Ymweliad gan Howel Harris
1785 Ymweliad Daniel Rowland1790 Dewis John Thomas yn flaenor1796 Chwefror 17 a 18; Cynnal Cymdeithasfa
1796 Dewis William Williams yn flaenor1807 Ailadeiladu’r Capel1809-49 John Thomas yn byw yn y Ty Capel (gweithredu fel gweinidog).
1811 Thomas Thomas fel Trysorydd1814 Mawrth 30-1 Cynnal Cymdeithasfa1825-35 Thomas Thomas, Trysorydd
1825 Awst 9-10 Cynnal Cymdeithasfa1825 236 o aelodau. 176 menyw a 65 dyn1830 Awst 5 Cynnal Cymdeithasfa
1832 Ailadeiladu’r Capel1832 Marw Jeremiah Howells, blaenor1833 Marw David Richards, blaenor
1836 Trysorydd Newydd Griffith Edwards1838 Awst Cynnal Cymdeithasfa1843 Trysorydd Newydd David Jenkins
1847 Awst 5 Cynnal Cymdeithasfa1847 Trysorydd Newydd William Humphreys

GWEINIDOGION: 1850-62
Y Parchg Robert Roberts, Penllwyn [brawd Ieuan Gwyllt]

1851 272 o wrandawyr yn y bore; 401 o wrandawyr yn yr hwyr1853 Marw Thomas Thomas, blaenor1856 Awst 6-7 Cynnal Cymdeithasfa
1856 Marw Thomas Windsor a William Humphreys, blaenoriaid1859 Marw William James, Tregybi1864 Gwaith adeiladu
1868 Awst 5-6 Cynnal Cymdeithasfa

1862-1870: Heb Weinidog

12.6.1870-77:

Y Parchg W. Mydrim Jones
‘Nid oedd Mr Jones yn gymaint pregethwr a’r cynweinidog, ond yr oedd o natur gyfeillgar a chymdeithasol, a rhoddodd lawer iawn o’i sylw i’r plant. Nid oedd Festri gan y Capel yn ei amser ef…
Dyma’r adeg hefyd y dygwyd offeryn cerdd gyntaf i’r Capel sef yr Harmonium’ [t. 43 Trem, Currie Hughes]

1871 Marw Thomas Jenkins, blaenor1873 Marw Evan Evans (tad Ossian Gwent) , Griffith Edwards, Mr Evans, Morfa, John Davies a David Jenkins (Maer y dref), blaenoriaid
1877 Marw Rees Nicholas, blaenor1880 Marw Thomas Edwards, blaenor

1881-12.12.1896
Y Parchg Griffith Davies, Argoed, Feidrhenffordd

Ar ei garreg fedd ym mynwent Blaenannerch:

Ysgrifennydd y Cyfarfod Misol 1861-71
Ysgrifennydd y Gymanfa Gyffredinol 1866-67
Ysgrifennydd y Gymdeithasfa 1869-84
Llywydd y Gymdeithasfa 1884-85
Arholydd yr Arholiad Cymdeithasfaol 1879-81
Traddododd y Cyngor yng Nghymdeithasfa yr Ordeinio 1895

‘Y brawd annwyl a’r gweinidog ffyddlawn yn yr Arglwydd’ Effes 6, 21
‘Yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr difefl yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd’
2 Tim 2, 15

1882 Festri Newydd am gost o £177.1882 Marw James Williams, blaenor1882 Awst 1-2 Cynnal Cymdeithasfa
1883 David Davies, Ysgrifennydd a Thomas Richard Nicholas, Trysorydd1884 Cyfrifiad yn dangos 190 o fynychwyr yn y bore; 270 yn yr hwyr1887 Ar gyfartaledd 175 yn y bore; 229 yn yr hwyr
1889 Marw David Rogers, blaenor1894 Mawrth 27, 28, 29 Cynnal Cymdeithasfa1894 Mawrth 27, 28, 29 Cynnal Cymdeithasfa

1894-1917
Y Parchg J. G. Moelwyn Hughes, MA, PhD.

‘Yr oedd Dr Hughes yn un o bregethwyr mawr ein Cyfundeb a’n Cenedl’
[t. 44, Trem, Currie Hughes]


1901 Aelodaeth o 2821902 Gwaith adnewyddu’r Capel a’r Organ. Railings Newydd gan Scott F. Kelly, Aberteifi.1904 Organ Newydd
1906 Gorff 31, Ast 1-2 Cynnal Cymdeithasfa1908 Marw J. C. Roberts a Capt. W. Williams, blaenoriaid1909 Ethol diaconiaid: D. Morgan Jones, Clerc y dref; T. M. Jenkins, Grangetown; J. Evans, Brecon Tce.; J. John, Fferm Aberdar; W. Joseph Thomas, Williams Tce.
1910 Paentio’r Capel1910 Dathlu’r 1501920 Marw David John Davies, diacon

13.2.1923-1925
Y Parchg R R Williams, BA, MA

‘Gweithiodd yn dda gyda’r plant, tra bu yma, ac ‘roedd ganddynt feddwl mawr iawn ohono’
[t. 47, Trem, Currie Hughes]

1924 Blaenoriaid: Evan Ceredig Evans; William Davies; T. M. Jenkins; D. Morgan Jones, John Jones, John Evans a W. Joseph Thomas. David Davies oedd y Trysorydd.1924 Aelodaeth 3101926 Hydref 5-7 Sasiwn

Medi 1929-Tach 1965
Y Parchg C. Currie Hughes

1929 Ailagor y Capel yn dilyn gwaith1929 Blaenoriaid: William Davies, dilledydd; William Joseph Thomas, ysg.; T. M. Jenkins, Ardeifi; John Evans, Minerva (arweinydd y gân am flynyddoedd , arolygwr yr Ysgol Sul 50 ml.); John Jones, Neuadd Aberdar; D. Morgan Jones, Clerc y dref.1929 Blaenoriaid Newydd: Daniel Davies, Maesyrawel; Thomas Reynolds, Mildura; E. T. Thomas, ysgolfeistr; J. T. Evans.
1930 Marw Wm Joseph Thomas, diacon a’r Ysgrifennydd ers 1909.1933 Festri Newydd1934 Mehefin 5-8 y Gymanfa Gyffredinol
1938 Blaenoriaid Newydd: Joseph J. Hughes, Minerva; J. P. James, Priory St.; D. L. Jones, Banc Barclays; L. O. Jones, Banc National a Provincial; a D. O. C. Roberts.1943 Blaenoriaid newydd: Evan Davies, Brynawelon; Aneurin James, Stepside; Ex-Insp Richards, Stryd y Priordy; Alban Thomas, Stryd y Priordy; J. E. Thomas, Penralltddu; a Hugh Thomas, Felin newydd.1944 Blaenoriaid: Mr. T. Morgan Jenkins; Thomas Reynolds; J. Thomas Evans; L. Oswald Jones; D. O. Conwyson Roberts; Evan J. Davies; Jenkin Richards; Alban Thomas; J. E. Thomas; Aneurin James; a H. Thomas.
1944 Aelodaeth 2541952 Blaenoriaid newydd: John Bevan, Stryd Napier; Lemuel Morgan, Feidrfair; Evan James, William St., Samuel Jones, Aberdar; Tom Owen, Brechfa, Greenland Meadows; a Tom J. Williams, Bron-y-dre1960 Ail agor y Capel yn dilyn gwaith paentio.
1960 Cyhoeddi: Trem ar ddwy ganrif y Tabernacl, Aberteifi 1760-1960 gan C. Currie Hughes1961 Tabernacl yn ymddangos ar Dechrau Canu Dechrau Canmol; David Lloyd yn unawdydd.1961 Apwyntio Aneurin James, Stepside yn ysgrifennydd
1962 Blaenor Newydd Parchg D. Terry Thomas


1965-69
Y Parchg Richard Jone
s

1970 Diaconiaid newydd: David Jones, Moelwyn Jones, Maldwyn Jones, Sarjynt D. R. Jones a D. R. Peregrine

1973-?
Y Parchg Tom Roberts

1974 Blaenoriaid Newydd: Det. Sarjynt J. Idwal Jones, Idris. L. Parry, J. G. Watts, Twynog Davies a Maldwyn Davies1981 Blaenoriaid Newydd: Dan Griffiths, J. J. Davies, Gareth James, John Adams-Lewis a Malcolm Thomas1982 Marw J. Idwal Jones, J. G. Watts, blaenoriaid
1983 Marw David Jones a Donald Francis, blaenoriaid1984 Aelodaeth 1661985 Aelodaeth 151
1986-7 Gwaith ychwanegol ar y Capel1987 Blaenoriaid newydd: John D. James; Eleanor Jones; Hywelfryn Jones; Alwyn Thomas; a Margaret Williams.1987 Aelodaeth 141

11 Hydref 1989-1993?
Y Parchg Ifor ap Gwilym

30 Hydref 1993-?
Y Parchg G. Madoc-Jones

1995 Mair Evans, Arosfa, Llandudoch yn ymddeol. Organydd ers 60 mlynedd.

16 Ionawr 1999-c. 2009 [m. 17.12.2022]
Y Parchg Raymond Jones

2010-2022
Y Parchg Llunos Gordon

Aelodau’r Tabernacl, Ebrill 1960

Cyfrannodd Gweinidogion ac aelodau’r Tabernacl yn fawr i fywyd crefyddol, diwylliannol, cymdeithasol, gwleidyddol a diwydannol tref Aberteifi dros y canrifoedd.
Trist cofnodi cau’r Capel ar ddiwedd Hydref 2022.

Lluniau gan Stuart Ladd >>>:
GWASANAETH DDATGORFFORI
29 HYDREF 2022

Rhaglen:

Os hoffech ychwanegu at y nodiadau uchod – lluniau, atgofion, ac ati – cysylltwch: whhowells@gmail.com

Pobl Aberteifi 54: Seamus Cunnane (1929-2021)

Gwasanaethodd y Tad Seamus Cunnane fel offeiriad Catholig plwyf Aberteifi am 37 mlynedd o 1962 tan 1999. Roedd ei gyfraniad i bob agwedd o fywyd Aberteifi yn sylweddol ar hyd y degawdau. Adeiladwyd yr Eglwys Gatholig a’r neuadd yn ystod y 1970au a chymerodd y Tad Cunnane ran amlwg yn y cynllun i godi arian tuag at y prosiect. Heb os, bydd ei gyfraniad oes i’r Eglwys Gatholig yn cael ei drafod mewn mannau eraill.

Fel hanesydd lleol brwd aeth y Tad Cunnane ati i ymchwilio i hanes tref a chastell Aberteifi ac mae’n werth rhoi sylw i’w rôl arloesol yn datgelu gorffennol canoloesol Aberteifi. Roedd ei wybodaeth o Ladin a’i Gymraeg rhugl yn caniatáu iddo ymchwilio’r ffynonellau gwreiddiol, ac roedd hyn yn sylfaenol. Rhaid peidio â dibynnu ar ffynonellau eilaidd.  Yna, ar ôl darganfod y ffeithiau rhaid oedd mynegi’r gwirionedd yn eglur. Dywedai ei farn yn ddiflewyn-ar-dafod.

Nôl ym 1992 ysgrifennodd: “Am dros 10 mlynedd rwyf wedi dysgu hanes lleol ac nid wyf eisiau i neb wyrdroi’r gwaith gan ddefnyddio teitlau a disgrifiadau anghywir y bydd plant ysgol ac eraill yn siwr o ddilyn.”

Nid oedd ganddo fawr o feddwl o Cardigan Priory in the Olden Days gan Emily Pritchard, 1904. 

“This was taken apart in 1905 when a reviewer commented: ‘The opening words of the first chapter are at once an indication of the author’s unfitness for her task.’ The trouble is that reviews disappear while the book remains and continues to mislead.”

Ysgrifennodd nifer o erthyglau arloesol am hanes Aberteifi yn y Canoloesodd:

‘Ceredigion and the Old Faith’, Ceredigion, vol 12, 2, 1994, 3-34

‘The Topography of Mediaeval Cardigan’ in Carmarthenshire and Beyond: Studies in History and Archaeology in memory of Terry James, ed. Heather James and Patricia Moore, 2009, 204-23

Ef hefyd oedd awdur:

Our Lady of Cardigan: a history and memoir, E. L. Jones, 2006, 56pp.

Roedd yn mwynhau sgrifennu a dadlau ei achos yn y Teifi-seid, gan anghytuno â gweithiau cyhoeddedig ar hanes Aberteifi gan amaturiaid a haneswyr academaidd o bwys.

Dyma restr o rai o’i erthyglau a llythyron ac ambell sylw:

‘The Four Gates’
Hanes y Teifi Gate; Wolf Gate; Bartholomew Gate a’r New Gate.
31 Rhag1982

‘Llywelyn ein llyw olaf’
Cysylltiad Llywelyn â’r dref.
Rhagfyr 1982

‘Pride of the Town’
Hen bryd neud y Castell yn ganolog ym mywyd y dre.
29 July 1983

Adolygiad o The Towns of Medieval Wales, Ian Soulsby, 1983:
Gan ddechrau drwy ganmol y gwaith, mae’n mynd ymlaen: “the book contains serious errors because [the author] relies on articles and books, some of which are wrong, instead of going to the primary sources. Twice he misunderstands the sources he uses and thus invents new errors.”

  • ‘It is likely that … (Gilbert de Clare) founded the Benedictine priory and St Mary’s Church…’ He certainly didn’t.
  • ‘In 1165 the Welsh under Rhys ap Gruffudd expelled the English monks from their priory…’ No evidence (apart from Emily Pritchard’s book).
  • ‘burgage figure of 172 in 1308’. The figure of 172 is suspect.
  • ‘Here also (near College Row) was the North Gate … standing in 1843.’
    A misunderstanding of W. E. James’s Guide Book (1899) where he is referring to the turnpike gate at the top of Pendre.
  • Town walls: ‘At the corner of College Row and Queen’s Tce the wall turned south along the Mwldan’. Not quite.
  • On St Mary’s St he is absolutely wrong.
  • On Chancery Lane he is even more grievously in error.

Ei ddyfarniad: “in a future edition rewrite the Cardigan section.”
29 Gorffennaf 1983

‘Throwing new light on the history of Cardigan.’
Mewn ymateb i gwestiynau yng ngholofnau wythnosol y Parchg D J Roberts yn y Teifi-seid am hanes y dref, mae’n esbonio gwreiddiau’r Mwldan, Pendre, Bartholomew Gate a Wolf Gate.
15 Chwefror 1985

‘Henry Tudor’s march through Cardigan 500 years ago’
Disgrifiad manwl o fywyd yn Aberteifi adeg ymweliad Harri Tudor.
09 Awst 1985

‘In defence of Welsh history’
Ysgrifennodd: “Today you (Teifi-seid) published an article on the medieval history of Cardigan and its castle called ‘The lock and stay of all Wales’ on a page carrying the rather incrongruous title ‘News Extra’. Much of it was indeed news to me, but only in the sense that it is demonstrably untrue.”

Ar ôl 12 pwynt o sylwadau mae’n gorffen: “It is time to show respect for fact, and it is a pity that the Tivy-side showed such little regard for it…”
1 Mehefin 1990

‘The Mystery of Dydd Iau Mawr (Great Thursday) celebration at Aber-porth.’
Roedd Dydd Iau cyn y 15ed Awst bob blwyddyn yn ddathliad Gatholig  (yr Ŵyl Fair Gyntaf).
9 Awst 1991

‘Statue not an idol and not adored’
Anghytunai’r Tad Cunnane â disgrifiad yn Arddangosfa’r Time Tunnel ‘the existence of the idol: The Lady of the Taper’. Ei sylw: “That is an untruth.  The statue was not an idol and was not adored.”
4 Medi 1992

‘The day they hanged the vicar’
Disgrifiad o achos Syr Hugh David Coch, ficer Llanarth, a’i ffawd o gael ei grogi, a’i ddarnio ar Banc y Warren yn 1592. 
28 Mai 1993

‘Cardigan development plan good news but…’
Ysgrifennodd: “We do not want hamfisted ‘development’ that ruins our heritage”
(â ymlaen i esbonio ystyr wreiddiol yr enw Chancery Lane neu Suitor’s Lane).
21 Gorffennaf 1994

‘Monks arrived via Cardi Bach’
Mae’n cywiro rhai anghysondebau mewn rhaglen deledu am fynachod Benedictaidd yn  Noyaddwilym gan ychwanegu’r sylw: “Many locals did not like them, including the Tivy-side editor and several correspondents, but we must not tar everyone with the same brush.”
5 Gorffennaf 1996

‘Don’t dump part of our town’s history’
Ysgrifennodd: “Ceredigion wants to dump responsibility for a road named Bingham Lane. But there is no such place. Its name is Feidrfair … [and it is part] of the great medieval pilgrim route from Bardsey Island to St David’s.

Ceredigion [County Council] should publicise and enhance it. Instead it is ducking responsibility and some of us think this is shameful.”
27 Tachwedd 2012

Rhai blynyddoedd yn ôl mynychais ddarlith gan yr Athro Ralph Griffiths dan nawdd Cymdeithas Hanes Ceredigion yn y Neuadd  Gatholig. Roedd ei ddisgrifiad o Aberteifi yn ystod y Canol Oesoedd yn ddiddorol ond yn ystod y sesiwn gwestiynau yn dilyn y ddarlith roedd yn amlwg pwy oedd yr arbenigwr ar Aberteifi. Ar y ffordd mas dywedodd rhywun: ‘Sai’n credu fod nhw wedi dewis y dyn iawn i draddodi pnawn yma.’

Nid y Canol Oesoedd oedd ei unig ddiddordeb. Wrth ymchwilio i hanes y ‘swinging sixties’ yn y dref roedd yn falch o gyfadde wrthyf iddo siglo llaw yr enwog Screaming Lord Sutch pan ddaeth i berfformio yn y Blac Leion yn Ebrill 1964.

Mae’r stori llawn am hanes cynnar Aberteifi eto i’w dweud, ond gosododd y Tad Cunnane seiliau cadarn ar gyfer haneswyr y dyfodol.

Cwsg Mewn Hedd Seamus Cunnane.

TEYRNGEDAU

Cannon Cunnane – Chwarewr GWYDDBWYLL

Pobl Aberteifi 47: Helen Samee

Dydd Sul 4 Rhagfyr 1823 bedyddiwyd Helen Samee yn Eglwys y Santes Fair, Aberteifi gan y Parchg John Lloyd, y curad ar y pryd.

Odi’r enw yn canu cloch gyda chi? Roedd Ramo Samee (1791-1850), ei thad, yn enwog fel jwglwr a chonsuriwr, ac yn dod o India. Daeth ef a’i wraig drosodd i Ewrop tua 1810, a bu’n teithio yn yr Unol Daleithiau yn 1819.

Roedd yn dipyn o berfformiwr:

Un o’i driciau oedd llyncu llond llaw o leiniau (beads), a darn o linyn, ac wedyn yn tynnu’r gleiniau mas o’i geg fesul un, ynghlwm wrth y llinyn.

Roedd hefyd yn ‘llyncu’ cleddyf (2 droedfedd!) ac yn bwyta tân. Byddai’n cynnau darn o raff, ei osod ar blât ac wedyn yn ei fwyta.

Mae disgrifiad diddorol ohono gan William Hazlitt yn (Table Talk, 1828) “The Indian Jugglers” , er nad yw’n enwi Ramo.

Ym mis Gorffennaf 1823 roedd yn perfformio yn Abertawe fel mae’r hysbyseb canlynol yn y Cambrian yn dangos:

Bu farw Ramo tua 1850, yn ddyn tlawd, a bu raid i’w wraig hysbysebu am gymorth ariannol i’w gladdu.

Y cwestiwn mawr wrth gwrs yw beth oedd ei gysylltiad ag Aberteifi? A fu’n byw yma neu ai pasio drwyddo a wnaeth?

Yn ôl Cyfrifiad 1881 ar gyfer Llundain (Gorllewin Hackney) man geni Helen (neu Ellen erbyn hyn) oedd Aberteifi, ac y mae Cofnodion Eglwys y Santes Fair yn dangos dyddiad ei bedydd.

‘Needlewoman’ oedd hi a’i mam, ond roedd eu bywyd yn galed a threuliodd y ddwy  gyfnodau yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y Wyrcws (fe’u rhyddhawyd o’r wyrcws 26 Ebrill 1850 ac eto ar 2 Mehefin 1882.)  Bu farw Ellen (Helen) Samee yn 1884.

Pe bai’r Teifi-seid yn bod yn 1823 tybed beth fyddai eu pennawd:
Daughter of famous Indian juggler baptised at St Mary’s, efallai?

Efallai ddim.

Pobl Aberteifi 46: Derek Greenslade Childs

O Stryd William i Eglwys Gadeiriol Llandaf;
mab pobydd a ddaeth yn Archesgob Cymru.

Derek Greenslade Childs (14 Ionawr 1918 – 18 Mawrth 1987)

Yn ôl ‘Wikipedia’ treuliodd Derek Childs ei blentyndod yn Nhalacharn. Nid oes son am ei fan geni.

Nid yw wedi cyrraedd Y Bywgraffiadur Cymreig eto.

Bedyddiwyd Derek Greenslade Childs ar 10 Mawr 1918 yn Eglwys S Mair, Aberteifi gan B. J. Jones, y curad. Enw ei rieni oedd Alfred John a Florence Theodosa. Cyfeiriad y teulu oedd 17 Stryd William.

Roedd Alfred yn wreiddiol o Dalacharn, a Florence (Jones) oedd yn byw yn 17 Stryd William. Priodwyd y ddau ar 17 Mawrth 1916 yn Eglwys S Mair. Mwy na thebyg daeth Alfred i fyw i Aberteifi yr adeg yma. Pobydd oedd wrth ei alwedigaeth.

Addysgwyd Derek yn Ysgol Ramadeg Hen-dy gwyn ar Daf, cyn mynd ymlaen i astudio hanes ym Mhrifysgol Caerdydd. Astudiodd theoleg yng Ngholeg Theoloeg Caersallog, cyn ei ordeinio yn 1942.

Fe oedd Esgob Mynwy (1970-86) ac Archesgob Cymru (1983-86)

Bu farw mewn damwain car yn 1987.

Cyhoeddwyd Living authority: Essays in memory of Archbishop Derrick Childs yn 1990.