Pobl Aberteifi 53: Launcelot Lowther (1825-1905)


Launcelot Lowther
(1825-17 Awst 1905)

Pan ymddeolodd Lowther fel Rheolwr Cwmni Mercanteil Aberteifi fe’i disgrifiwyd yn y Teifi-seid fel:

one, if not the best known and most respected businessmen in the town of Cardigan…

Yn enedigol o Bradford on Avon, cyrhaeddodd Aberteifi ym 1848 fel rheolwr i fusnes David Davies, Y Castell, marsiandwr coed a pherchennog llongau. Trosglwyddodd Davies y busnes i’w fab ac i Lowther ym 1865 gan gymryd yr enw ‘Davies a Lowther’ tan 1869. Dychwelodd Lowther fel rheolwr a pharhau felly tan 1876, pan unwyd cwmni D. G. Davies a Thomas Davies fel y Cardigan Mercantile Company. Thomas Davies oedd y Rheolwr Gyfarwyddwr a Lowther yr Ysgrifennydd.

Cyfrifon, 1876-77

Dechreuodd gyrfa gyhoeddus Lowther ym mis Tachwedd 1865 pan ddaeth yn aelod o Gyngor y Dref. Tynnodd ei wrthwynebwr John James ei gais yn ôl cyn yr etholiad. Roedd cyflwr ariannol y fwrdeistref y pryd hynny yn ddifrifol:

in a most deplorable state, the accounts not having been made up or audited for over ten years.

Gan ddefnyddio ei allu busnes sortiodd y llanast ac mewn cyfarfod o’r Cyngor ar 16 Awst 1867 cyhoeddwyd:

This meeting considers that Mr Lowther merits the grateful acknowledgement of the inhabitants and Ratepayers of the Borough of Cardigan for undertaking and performing the herculean task of bringing the Corporation accounts out of the chaotic state in which the same have been so long allowed to remain, into such a form as to be capable of being understood and investigated, and that he should be properly remunerated for his services.

Galwyd cyfarfod cyhoeddus a chynigiwyd £20 iddo fel cydnabyddiaeth am ei gymwynas. Cynigiwyd iddo swydd Maer ond gwrthododd. [Ar ôl treulio 2 flynedd yn sortio mas gyfrifon y Cyngor roedd e siwr o fod wedi cael digon – roedd bywyd yn rhy fyr!]. Yn wir, gwaethygodd pethau iddo yn ystod y 1870au ac ar 26 Ionawr 1872 fe’i cyhoeddwyd yn fethdalwr a chollodd ei sedd ar Gyngor y Dref.

Bu’n Ysgrifennydd Mechanics’ Institute y dref ers 1849, gan neilltuo llawer ac egni yn sortio mas cyfrifon y sefydliad hwnnw. Am ei ymdrech cyflwynwyd oriawr iddo gyda’r arysgrif:

In recognition of his unswerving zeal and efficient conduct as hon. secretary.

Cymerodd ran amlwg yn y gwaith o sefydlu’r Cardigan Steam Navigation Company, cwmni a oedd yn gyfrifol am yr ss Tivy-side, y llong stêm gyntaf i deithio’n uniongyrchol o Aberteifi i Fryste. Lowther oedd ysgrifennydd y cwmni nes i’r Cwmni ddod i ben adeg gwerthu’r llong.

I Thomas Davies a Lowther yr oedd y diolch am ddod â nwy i’r dref. Sefydlwyd Cwmni Nwy Aberteifi ym 1865, gyda Lowther yn ysgrifennydd o’r dechrau nes iddo ymddiswyddo oherwydd salwch ym 1902.

Ymffrostia’i Lowther taw ef oedd sylfaenydd Lodj Glanteifi o’r Oddfellows.

Yn ystod ei gyfnod gyda’r Cardigan Mercantile hyfforddodd o leiaf 30 o fechgyn ifanc – bron pob un yn dal swyddi cyfrifol yn Llundain, Caerdydd a chanolfannau masnachol eraill.

Roedd Lowther yn gysylltiedig â Capel yr Hope am 40 mlynedd fel aelod a diacon. Yn ystod ei gyfnod yn Aberteifi bu’n byw yn Stryd y Bont, wedyn Stryd y Santes Fair a Stryd y Priordy.

Priododd Elizabeth (Morgan) yng Nghaerfyrddin ar 12 Hydref 1854 a chawsant 10 o blant cyn iddynt ysgaru ym 1878:

Helen (1855-1944), Launcelot Ethelbert (1857-), Thomas William (1858-1943), Beatrice (1860-1927), Herbert Reginald (1863-1936), Arthur (1866-), Charles Leopold (1868-1943), Francis Llewellyn (1870-1948 Prifathro yn Aberdaugleddau), Laura Sophia (1873-96, athrawes gerdd, St Mary St.), a Eleanor J. (1879-).

Gadael sylw