1–7 Chwefror


  • 7 1939 (Maw.) Oedfa sefydlu y Parchg D. J. Roberts yng Nghapel Mair.
Y Parchg D. J. Roberts
Y Parchg D. J. Roberts
  • 7 1896 (Gwe.) Claddu Joseph Prosser, 81 oed, morwr, Mwldan Uchaf.
  • 7 1900 (Mer.) Ymddiswyddiad Thomas Francis fel gofalwr y fynwent.
  • 6 1850 (Mer.) ‘Thetis’ o Limeric mewn trafferth wrth groesi bar Aberteifi. Collwyd 11 o fywydau.
  • 5 1900 (Llun) Tynnwyd sylw’r heddlu lleol i’r arfer cynyddol o ganu caneuon comic yn nhafarndai’r dre. Medd Sarjynt Denis Williams ‘mae’r heddlu yn edrych i mewn i’r sefyllfa’.
  • 4 1878 (Llun) Y Bwrdd Ysgol yn penderfynu prynu cloch newydd oddi wrth William James, gwerthwr haearn.
  • 4 1897 (Iau) Damwain Trap a Cheffyl: Tua 7.45 yn y nos, roedd Capten Lloyd, postfeistr o Landudoch yn dychwelyd o’r stesiwn pan dorrodd shafft y cart a dyma’r 4 person a’r cesys yn glanio yn yr hewl. Yn ffodus cafodd neb dolur.
  • 3 1930 (Llun) Cwmni Drama Will Haggar a Miss Jenny Lindon o Chwaraewyr Dewisol yn cyflwyno ‘Links that Binds’ yn y Paf.
  • 2 1882 (Iau) Marw James Williams, Stryd y Priordy, maer y dre dwywaith (unwaith yn 1877).
  • 1 1950 (Mer.) Agorwyd Banc TSB yn Kensington House gan y maer.
  • 1 1882 (Mer.) Agoriad swyddogol festri newydd Bethania.
  • 1 1880 (Gwe.) Arwerthiant y smac ‘Anne & Mary’ gan David Roberts yn y White Hart.

AGOR FESTRI BETHANIA (addaswyd mas o CTA 2.3.1882)

Adeiladwyd y festri oherwydd y cynnydd yn nifer y disgyblion a fynychai’r Ysgol Sul. Cynnwys: llyfrgell, ystafelloedd hamdden, festri, ystafelloedd ar gyfer athrawon, bwyler, a chyfleusterau eraill. Roedd y cyfan yn costio £510. Cyflwynwyd y cynllun i’r Parchg John Williams fel arwydd o barch gan y pensaer John  Owens, Lerpwl. Addurnwyd y cyfan tu fewn gan Mrs R E Rees, Sryd Fawr, bu’n gyfrifol hefyd am gasglu rhwng £20 a £30 tuag at y treuliau. Casglodd Master Johnny Evans George dros 100 o dicedi ar gyfer y te a’r cyngerdd.

Bu’r canlynol yn gyfrifol am yr addurniadau:

Miss Evans, Penrallt-Cadwgan; Mrs Williams, gwraig y gweinidog; Capt J O Griffiths; Mrs Llewellyn (Y Globe); Mr Richards; Mr David Thomas, Northgate Tce.; Mr John Bowen, Heol y Cei; Mrs Thomas, Mwldan; Capt Evans, New Inn, Heol William

Bu’r canlynol yn gyfrifol am fwydo’r 500:

Miss Evans, Penrallt-Cadwgan; Mrs J O Griffiths, Emerald Ho., Pendre; Mrs Thomas Griffiths, Pendre; Mrs  Esau, Pendre; Mrs James, Northgate Tce.; Miss Mary Ann Thomas, Heol y Bont

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s