- 21 1951 (Mer.) Cyngerdd blynyddol Côr Aberteifi a’r cylch. ‘Sant Pawl’ gan Mendelssohn. Soprano Marjorie Shires; Tenor Llewelyn John; Bass Trevor Anthony; Contralto Olga Bonnell. Yr organydd oedd yr Athro Edward Morgan; a’r arweinydd oedd Andrew Williams LRAM, ARCM.
- 20 1878 (Mer.) Darlith ym Mhethania: ‘Handel’ gan y Parchg W. Harries, Aberdar. Yr elw tuag at Gapel y Bedyddwyr, Cilfowyr. Medd y gohebydd ‘dangosodd y darlithydd gallu sylweddol wrth gyfansoddu’r gwaith’.
- 19 1879 (Mer.) Cwmni’r SS Sea Flower yn dod i ben.
- 18 1983 (Gwe.) Reslo yn y Pav! Poblogaidd yn ystod y chwedegau ac wedyn am gyfnod yn yr wythdegau. Yn perfformio ar y dyddiad yma heno Tony St Clair; Mad Rasputin; a Princess Cherokee. Lot o hwyl!
- 17 1941 (Llun) 170 o efaciwis wedi cyrraedd o Lerpwl, gan gynnwys disgybl ysgol o’r enw Alun Owen a dyfodd lan i fod yn ddramodydd enwog. Mwy amdano fe, ac eraill nes ymlaen yn y flwyddyn.
- 17 1902 (Llun) Cofrestru Cymdeithas y Vale of Tivy Co-operative.
- 16 1980 (Sad.) Paul Ringer – bant o’r cae?!
Brwydr Twicenham (16 Chwefror 1980)
Anfonwyd Paul Ringer, cyn ddisgybl Ysgol Uwchradd Aberteifi, oedd yn chwarae i Gymru yn erbyn Lloegr yn Nhwicenham, bant o’r cae yn y 13eg munud gan ddyfarnwr o’r Iwerddon David Burnett, am dacl hwyr (medde nhw) ar John Horton. Daeth Cymru yn ail : y sgôr 9–8.
Digwyddiad braidd yn ddadleuol, a chyfle i Max Boyce sgrifennu cân ‘Ringer was to blame’. Fel wedodd Max: ‘Gyrhaeddodd e mor gloi a galle fe’.
Neu fel wedodd Graham Price am y gêm: ‘Roedd hi fel y trydydd Rhyfel Byd, ond yn y ddyddiau hynny roedd y dyfarnwyr yn gyndyn i anfon chwaraewyr bant, sdim ots beth wnaethen nhw.’
‘Penderfyniad gwarthus’ medd Ringer ei hun. ‘Daeth capten Lloegr, Peter Wheeler draw a gweud wrth y dyfarnwr os na fydded fe’n anfon fi bant , bydde’r gwaed yn llifo ar y cae. Wnaeth hynny helpu fe i ddod i benderfyniad.’
Medd John Carleton , un o asgellwyr Lloegr: ‘Rwyf wedi trafod y mater drosodd a throsodd ond dal ddim yn siwr. Rhedodd at John ac roedd e eitha uchel ac efallai roedd ychydig o fwriad tu ôl i’r cyfan, ond nath e ddim cyffwrdd llawer.’
Baniwyd Ringer am 8 gêm a methu Taith y Llewod i Dde Affrica. Ymddeolodd o’r gêm ym 1984. ar ôl chwarae ychydig o Rygbi’r Gynghrair gyda Dreigiau Gleision Caerydd.
A oes un o rhein gyda chi? Gwisgwch eich bathodyn heddi : ‘Mae Ringer yn ddieuog’.
- 15 2103 (Gwe.) Gwaith yn dechrau i adfer y Castell (Bydd hwn yn hanes fory!)