Pobl Aberteifi 5: John Davies (Ossian Dyfed)


John Davies (Ossian Dyfed; 1852–1916)

Ganed John Davies yn ‘Ossian House’, Lôn Eben ym 1852 yn fab i Phoebe Davies a fu farw ym 1857 yn 29 oed. Dechreuodd ei yrfa fel saer coed, wedyn gweithiodd fel argraffydd a newyddiadurwr gyda’r Teifi-seid. Dechreuodd gystadlu yn Eisteddfod Bethsaida ym 1868, pryd y dechreuodd ddefnyddio’r enw Ossian Dyfed. Enillodd dros hanner cant o wobrau eisteddfodol.

Gadawodd Aberteifi i fynd  i weithio i’r Brecon Express, Y Darian a’r Fellten (Merthyr Tudful). Dychwelodd i Aberteifi a mynychu Academi D. M. Palmer, ac wedyn aeth i Goleg Coffa Aberhonddu ym 1873. Bu’n weinidog gyda’r Annibynwyr yn Llanelli (Tabernacl) ble y cododd yr aelodaeth i 400.

Symudodd i Abertawe a chodi’r aelodaeth o 60 i 230. Symudodd wedyn i Tollington Park, Llundain, ble y dwblodd yr aelodaeth mewn tair blynedd. Symudodd wedyn i Richmond Hill, Bournemouth, ac yn olaf Paddington, Llundain 1897–1903.

Priododd Elizabeth Thomas, Llandeilo ym 1881, a chawasant fab, Sidney a merch Gwladys. Ei frawd oedd y Parchg T. Eynon Davies.

Cyhoeddodd dwy gyfrol o’i bregethau: Old but [yet?] ever new, 1904 a The Dayspring from on High, 1907. Bu farw ar 24 Medi 1916 yn Shortlands, Caent.

… ac un ffaith diddorol arall: Ym 1911 roedd gan eu deulu forwyn o’r enw Lisette Schmidt, o’r Almaen.

Lôn Eben, Aberteifi
Ossian House, 2018

Gadael sylw