- 14 1969 (Gwe.) Hysbyseb yn y Teifi-seid gan gynrychiolydd lleol o’r FWA yn Aberteifi!
- 14 1930 (Gwe.) Siop chips, y Cardigan Arms, 3 Rhes y Coleg, nawr ar agor ar Ddydd Sadwrn o 11.30 y bore hyd 11.00 y nos ar gyfer gwerthu pysgod wedi’u ffreio a chips.
- 14 1927 (Llun) Claddu Evan Ceredig Evans, 74 oed, Brynsiriol, Heol y Gogledd, cyn fferyllydd ar y Stryd Fawr.
- 13 1945 (Maw.) Clwyfwyd George Backshell, Victoria House, yn yr Iseldiroedd.
- 13 1930 (Iau) Maid of Cefn Ydfa – ffilm William Haggar o ddrama hanesyddol Gymreig ymlaen yn y Pav.
- 12 1960 (Gwe.) Gwell llun teledu i bobl Aberteifi. Mast teledu ‘piped’ lan ar Banc y Warin.
- 11 1861 (Llun) ‘Stryd y Priordy’ yn bodoli (yr enw gwreiddiol oedd y Stryd Newydd)
- 10 1992 (Llun) Marw Mrs Frances Mason, maer y dref 1982–3. Bu’n cadw siop lyfrau ail-law ar dop Stryd y Cei am flynyddoedd.

- 9 1842 (Mer.) Galwodd y maer am gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Sir (Shire Hall) pryd y cytunwyd i alw am Ddeddf Arbennig o’r Senedd er mwyn caniatau’r Cyngor i amgau Tir Comyn y dref.
- 8 1966 (Maw.) Llifogydd yn taro’r dre oherwydd llanw uchel a gwyntoedd cryf.