- 14 1879 (Llun) Mae’r CARDIGAN BRICK, TILE & POTTERY WORKS wedi sicrhau contract er mwyn cyflenwi brics i Ddoc Penfro. Eisoes maent wedi derbyn archeb ar gyfer 100, 000 o frics. Mae’r contract yn cynnwys cyflenwi holl bibau a crochenwaith sydd angen ar gyfer y flwyddyn nesaf.
- 13 1921 (Mer.) Rasus fflat, neidio a trotian yn Greenland Meadows
- 13 1878 (Sad.) Arolygydd yr Heddlu Davies yn ymddiswyddo ar bensiwn llawn o £1.2.7.
- 12 1985 (Gwe.) Derbyniad dinesig ar gyfer Hywel Davies, enillydd y Grand National ar Last Suspect.
- 11 1819 (Sul) Albion yn codi angor a chroesi’r Bar yn barod i fynd i Newfoundland.
- 10 1970 (Gwe.) Pris y Teifi-seid yn codi i 8d. (3c)
- 10 1950 (Llun) Gêm Gwpan Llun y Pasg yn Nghilgerran. Torf o 1400 yn gweld 9 gôl: Aberteifi 6 Aberaeron 3
- 10 1680 (Sad.) Diligence o Lancaster, meistr Richard Reeder, yn hwylio i Biwmaris â llwyth o 8 tunnell o halen.

(30 Hydref 1889– 20 Ebrill 1949)
- 9 1958 (Mer.) Cyrddau Dadorchuddio Cof-faen i’r diweddar Barchg Eseia Williams am 2. Gwasanaeth yr hwyr: pregeth gan y Parchg Humphrey Ellis, Caernarfon a’r Parchg John Thomas, Blaenywaun.
- 9 1949 (Sad.) Parêd o Gerbydau’r Fyddin Tiriogaethol: Yr 1584 (G.T.) County RASC (TA) – loriau 3 tunnell, ceir, cerbydau trwsio, beiciau modur ac offer gweithdy.
- 9 1842 (Sad.) Triton yn hwylio am Quebec.
- 8 1949 (Gwe.) Llythyr yn y Teifseid gan ‘Interested of Newport, Pembs.’ ‘
‘Cig Ceffyl yn y siopau’
Bydde sawl un yn hoffi pe bydde’r Parchg Ben Owen yn esbonio’n llawnach ei ddatganiad yn rhifyn wythnos diwethaf fod cig eidion a chig oen o Aberteifi yn cael eu hanfon i Lundain, a fod cig wedi’i rhewi a chig ceffyl yn cael eu hanfon o’r Ariannin i Aberteifi.
Ydym ni ar ddeall fod bwtsheriaid Aberteifi yn cyflenwi cig ceffyl i gwsmeriaid rheolaidd fel cig wedi’i ddogni?