1–7 Ionawr


  • 7 1892 (Iau) T. E. Ellis AS i fod siarad yn y Guildhall heno gyda Mr Bowen Rowlands AS ond yn sownd yn Llandysul oherwydd eira trwm. Diolch byth medd ambell i wrthwynebydd!
  • 6 1897 (Mer.) Yn dilyn ei priodas diweddar cyflwynwyd anrheg priodas i’r Parchg a Mrs Moelwyn Hughes, Tabernacle gan yr aelodau. Cyflwynodd y Cadeirydd E. Ceredig Evans 11 o siaradwyr. Pan ddaeth Miss Susanna Jones ymlaen i ganu “Ble’r aeth yr Amen?”, roedd sawl un yn gofyn yr union gwestiwn!
  • 6 1895 (Sul.) Rhew caled ym mhob man. Y Teifi wedi rhewi’n gorn. Amser i wisgo’r sgêts a mynd lawr am y bont!
  • 5 1867 (Sad.) Tywydd stormus. Aeth y bad achub ‘John Stuart’ allan i helpu’r slwp ‘Oliver Lloyd’ o Aberteifi a’r ‘Turtle Dove’ o Aberystwyth. Achubwyd criw o 6.
  • 4 1985 (Gwe.) Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu’r Pwll Nofio
  • 4 1906 (Iau) Bu fawr D. G. Davies, Castle Green, 70 oed.
  • 4 1873 (Sad.) Penodwyd Arolygwr Glanweithdra a Swyddog Iechyd. Roedd y dre’n dechrau drewi
  • 3 1682 (Maw.) Hwyliodd y ‘Ffisher’ o Milffwrdd, meistr John Thompson o Aberteifi i Dartmouth gyda 60 barel o benwaig.
  • 2 1917 (Maw.) Cynhaliwyd cyfarfod er mwyn dod â’r ‘Mechanics Institute’ i ben.
MechInst1861
Dewis da o bapurau newydd ar gael yn ddyddiol

Sefydlwyd y gymdeithas ym 1847 mewn tý ar dop Stryd y Bont. Symudodd wedyn i’r Guildhall. Ym 1873 roedd 212 yn aelod a 215 wedi ymweld. Benthyciwyd 1956 o lyfrau.  Yr ysgrifennydd ym 1873 oedd Samuel Owen, tad D.E. Owen, Banc Lloyds, Llandysul. Erbyn 1882 roedd rhif yr aelodaeth 0 211 yn dal yn gryf. Addawodd David Davies A.S. £100 er mwyn codi adeilad addas i’r dre. Ym 1886 roedd yr aelodau wedi casglu £100 arall, felly dyma ofyn i’r drigolion hael i gyfrannu pellach er mwyn codi rhywle addas ar gyfer y dre. Yn anffodus barn fel arall oedd gan bobl y dref a ni chafwyd unrhyw gyfraniad ychwanegol!

Roedd 1887 yn flwyddyn Jiwbili’r Frenhines Fictoria. Mewn cyfarfod cyhoeddus awgrymodd y maer, Levi James y dylid adeiladu ar dir a gynigiwyd gan y Cyrnol Miles. Cynigiodd y maer £50 arall; cynigiodd W. O. Brigstocke £10. Ffurfiwyd pwyllgor (wrth gwrs) a Henry R. Daniel fel ysgrifennydd. Y gobaith oedd derbyn help ychwanegol oddi wrth drigolion hael y dref.

Ond roedd gan D. G. Davies, Castle Green barn wahanol: roedd y maer yn sicr o gael ei urddo’n farchog yn ystod blwyddyn y Jiwbili, ac felly dylai adeiladu’r lle ei hun yn hytrach na chyfranu pitw £50! Roedd gormod o Anghydffurfwyr ar y pwyllgor i blesio D. G. Davies. Aeth pethau o ddrwg i waeth pan awgrymodd rhywun y dylid gwario’r arian a gasglwyd er mwyn gwella’r afon Teifi. Y canlyniad i hyn oll? dim llawer.

Erbyn yr 1890au roedd yr aelodaeth yn disgyn a mudiadau tebyg megis Clwb y Conservatives a Chlwb y Liberals yn dod yn fwy poblogaidd.

Ar y dydd yma yn Ionawr 1917 daeth y MI i ben. Defnyddiwyd yr ystafell wedyn gan Loj Glanteifi o’r Oddfellows.

Cyngerdd mawreddog er budd y Mechanics Institute, 1890
Cyngerdd mawreddog er budd y Mechanics Institute, 1890
  • 1 1916 (Sad.) Maer newydd D. Timothy James, Gwalia – y maer cyntaf i roi sioe sinema am ddim i blant y dref fel calennig.
  • 1 1888 (Sul) Agorwyd Clwb ar gyfer y bonedd 22 Stryd Santes Fair.
  • 1 1873 (Mer.) Cyflwyniad i’r Parchg Evan Thomas, Bethania ar ei ymadawiad i Gaerfyrddin.

Orinda gan R. T. Jenkins (Hughes a'i Fab, 1943)

  • 1 1631 (Mer.) Geni Katherine Philips, a ddaeth  i fyw i Briordy Aberteifi. Priododd James Philips ym 1648 pan oedd e yn 54 oed a hithau yn 16 oed. Roedd Katherine yn fardd ac yn ddramodydd; cyhoeddodd nifer o weithiau megis cyfieithiad o ddrama Corneille – La mort de Pompee, a Poems by the incomparable Mrs K. P. (1664). Cyhoeddwyd ei llythyron i ‘Poliarchus’ (Cotterell)  ym 1705 ar ôl ei marwolaeth. Bu farw ar 22 Ion 1664.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s