22–31 Ionawr


  • 31 1970 (Sad.) Cannoedd o ffermwyr yn protestio yn ystod ymweliad James Callaghan.
  • 31 1930 (Sad.) Cyfarfod y Cymmrodorion yng Nghapel Mair. John E. Jones, Llanbrynmair yn cyflwyno ‘Noson gyda’r delyn’.
  • 30 1950 (Llun) Agorwyd Llyfrgell Gyhoeddus y dre gan Ald. Griff Davies YH, cadeirydd y Pwyllgor Llyfrgell. Cynnwys: 5000 o lyfrau; 2000 o nofelau, 2500 llyfrau ffeithiol, 250 o lyfrau Cymraeg.
  • 30 1852 (Gwe.) Arwerthiant y smac ‘Maria’ gan David Roberts yn nhafarn y White Hart.
  • 30 1682 (Gwe.) Hwyliodd y ‘Paramour’ o Aberteifi i Falmouth â 100 ‘meise’ o sgadan gwyn.
  • 29 1953 (Iau) Cloc ar gyfer y Pafiliwn Chwaraeon (Parc y Reiffl) yn barod i’w osod. Un darn bach wedi torri yn y post! Mor gynted bydd rhywun wedi’i reparo bydd y cloc yn ei le.
PafiliwnChwarae
Pafiliwn Chwarae (Parc y Reiffl). Clwb Rygbi presennol.
  • 28 1953 (Sat) ‘Lady Godiva rides again’ yn y Pav.
  • 28 1951 (Sun.) Pregeth cyntaf y Parchg D. T. Price yn Eglwys Sant Mair. 800 o bobl yn bresennol.
  • 28 1825 (Gwe.) Talwyd John Jenkins paid £5.18s ar gyfer adeiladu stepiau i Neuadd y Sir (Shire Hall).
  • 27 1938 (Iau) Opera gysegredig ‘Joseph’, Joseph Parry. gan Gôr y Priordy, Caerfyrddin. Annie Davies, Caerfyrddin a David Harry, Llwynhendy. Yn y Pafiliwn. Yr elw at Drysorfa Festri Bryn Salem, Cippin.
  • 26 1897 (Maw.) Darlith gan Dr Rees, prifathro yn y Guildhall “University Life Abroad”, gan sôn am ei brofiadau ym Merlin a Paris. Y ficer yn cadeirio.
  • 26 1895 (Sad.) Cyfarfod yn swyddfeydd Evans & Stephens er mwyn ffurfio cwrs golff yn y Gwbert.
  • 26 1883 (Gwe.) Cyhuddo Eleanor Jones, 65 oed, o ddwyn 24 tudalen o bapur a phaced o amlenni o siop yn Llandysul. Dyfarnwyd yn euog a dwedodd iddi gael ddiferyn ormod o gwrw. Dedfrydwyd i 18 mis o lafur caled.
  • 25 1964 (Sad.) Roy Denvers a’r Commancheros yn y Blac Leion.
  • 25 1912 (Thurs.) Cyfarfod yn y Guildhall er mwyn cytuno dechrau ar y gwaith o godi’r Pav.
  • 25 1879 (Mon.) Apêl am ddillad ar gyfer 50 o blant oedd yn mynychu Ysgol Sul y Beibl yn y Mwldan. Derbyniwyd unrhyw roddion â diolch gan Mr Nicholas, Banc Brecon .
  • 24 1887 (Llun) Claddu y Capten Gillespie ym mynwent yr Eglwys. Gwnaeth sawl darganfyddiad ym myd y badau achub.
  • 23 1951 (Maw.) Cyfarfod sefydlu y Parchg D. T. Price yn Eglwys y Santes Fair. 800 o bobl yn bresennol. Ciwio wedi cychwyn am 1.00 ar gyfer oedfa am 2.00.
  • 22 1894 (Llun) Claddu Anne Wigley, 23 oed, paciwr brics, Mwldan Isaf, byw gyda’i mam weddw Margaret, 45 oed.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s