- 21 1897 (Llun) Incwest i farwolaeth George Aubrey Davies, mab ifancaf D. G. Davies, YH. Daethpwyd o hyd i’w gorff nos Sadwrn yn Castle Green a bwled trwy’i ben. Dyfarniad y rheithor oedd marwolaeth trwy ddamwain. Dim ond nos Iau y dychwelodd adref o’r Coleg. Ym 1890 collodd y mab henaf ei fraich trwy ddamwain saethu tra’n hela hwyaid gwyllt ar y Teifi.
- 20 1878 (Gwe.) Rhew caled ar strydoedd Aberteifi yn golygu peryglon a damweiniau difrifol. (dim digon o flawd llif? – gweler 10 Rhagfyr)
- 19 1929 (Mer.) Danso yn y Drill Hall (Neuadd yr Ymarferion). Trefniadau gan BQMS Russel ac Artificer (peidwch gofyn) Serjynt Gwyn Griffiths. Cerddoriaeth arbennig gan fand dawns lleol. Ar y Piano a ffidil Miss Adey, ar y banjo Cliff Thomas, ar y trwmpet T. Evans, ar y drymiau Art Serjynt Gwyn Griffiths. Yr elw tuag at Gronfa Chwaraeon y Bateri.
- 18 1963 (Mer.) Perfformiad o Iolanthe, Gilbert a Sullivan yn yr Ysgol Uwchradd.
- 18 1940 (Mer.) Perfformiad o’r Mikado, Gilbert a Sullivan, yn yr Ysgol Uwchradd.
- 17 1908 (Iau) Angladd y Parchg T. J. Morris, North Gate Terrace.
- 17 1904 (Sad.) Angladd Ernest Smith Allen, y ffotograffydd 35 oed.
- 17 1869 (Gwe.) Cyfarfod cyhoeddus er mwyn penderfynu gwerthu 60 acer o dir comyn y dref i leihau dyled £7, 500 y Cyngor. Y Cadeirydd oedd y maer Dr John Thomas.
- 16 1966 (Gwe.) Achub Pride Moreta o Thorn o’r lladd-dy! (neu’r tarw, Snowflake)
- 16 1948 (Iau) Cyngerdd Amrywiol yn y Pav. Al Roberts a Dorothy. Y taflwr llais yn cyflwyno Granfer, Grandma a George a Dorothy. Triciau, dynwared, cartwnau a lluniau rag. Cewch ei weld yn chwarae tiwniau ar falwn a phwmp beic. Unwaith y gwelwch – anodd ei anghofio. Cyfeilyddes Mrs Wynne-Evans, LRAM, ARCM. Y Cadeirydd Dr Gwyn Jones; Cyflwynydd T H Evans, St Dogmaels.
- 15 1950 (Gwe.) Maer yn derbyn gwisg newydd gan Sefydliad y Merched.