- 3 1952 (Gwe.) Gwerthwyd Ynys Aberteifi am swm o £300 i ddyn o Aberteifi’n wreiddiol – Mr E. Clarke o Walton-on Thames.
- 3 1914 (Sad.) Arestiwyd Almaenwr oedd yn gweithio yng Ngwesty’r Cliff. Aeth ag ef i Swyddfa’r Heddlu.
- 3 1831 (Llun.) Gwasnaeth Coetsys ar fin dechrau rhwng Aberteifi a Chaerfyrddin. O Westy’r Albion (Foundry Tce.) am 8.00 y bore a dychwelyd y diwrnod canlynol o’r Ivy Bush am 10.
- 3 1821 (Wed.) Dienyddiwyd William James, 29 am dorri i mewn i dy a dwyn eiddo:
Ystyria lwybr dy draed a threfna dy holl ffyrdd yn uniawn – Diarh 4, 26
Yn Aberteifi fe ddigwyddodd
Tro ar gyhoedd yr holl dre.
Eu fath ni fu ers ugain mlynedd
O’r blaen o fewn magwyry’r lle.
Dihenyddiwyd ar y grogbren
Fachgen ieuangc heini llon
Trwy yspeilio a lladratta
Daeth ef i’r sefyllfa hon.
J. Lloyd, Aberteifi on 13 Hyd. 1821.
Ballad argraffwyd gan Evan Jones, Heol-y-prior, Caerfyrddin.