
William Pritchard Adey (1915–1987)
Newyddiadurwr ar y Teifi-seid. Bardd. Cyhoeddodd Look to the Hills, 1982. Ysg. adran garddio Sioe Amaethyddol Aberteifi a’r cylch. Ysg. Cymdeithas Gwarchod Pysgotwyr Rhwyd y Teifi. Byw yn Stryd yr Eglwys ac wedyn Bron-y-dre.

Thomas F. Baldwin (1880–1935).
Yn wreiddiol o Plymouth. Daeth i Aberteifi tua 1910. Yn gyfrifol am siop nwyddau ffansi Empire House ym Mhendre. Meistr gyda’r sgowtiaid Trwp 1af Aberteifi (S Mary).

Evan Bowen (g. 1863)
Groser (Y Brodyr Bowen). Yn byw yn yr Elms, Stryd y Priordy. Cynghorydd Tref, a henadur erbyn 1914. Bu farw ei wraig yn 1904. Maer yn 1905, a’i ferch Gwyneth oedd y faeres.

Gwyneth Bowen (g. 14.07.1902)
Maeres yn 1905 fel cymar i’w thad Evan (gweler uchod).

Capten John Bowen, meistr y Ruth (m. 24.06.1870, 59 oed)
Ei wraig Margaret (1815–07.04.1892) a thair o’i ferched, Jane (1843–, Hannah (1846– ac Ann (1848–02.03.1915, (cefn y llun) a Mary oedd yn byw yn Stryd Cae Glas (Greenfield Row). Nid oes sôn am John yng nghyfrifiad Aberteifi ar ôl 1841 (ar y môr efallai?). Claddwyd ym mynwent Aberteifi.
Pobl Aberteifi 1: y cyntaf mewn cyfres i gofnodi wynebau pobl sy’n gysylltiedig â’r dre, gan ychwanegu ychydig nodiadau am bob un, lle fod hynny’n bosib. Bydd y testun yn newid fel bod mwy o wybodaeth a chywiriadau yn dod i’r golwg, ond bydd y ffeithiau yn aros. Os oes gwybodaeth ychwanegol gyda chi, neu os oes lluniau gyda chi yn yr atig, byddwn yn falch o glywed gennych.