
Ganwyd yn Aberteifi 21 Mai 1847, yn fab i William Thomas Lewis (o Drefgarn, sir Benfro) a’i wraig Jane Mansel (Bevan). Teiliwr a gwerthwr dillad oedd William (y tad) yn rhif 9 Stryd Fawr, Trydydd o bump o blant oedd William B.
Cafodd ei addysg yn lleol gan adael i fynd i Ysbyty Guy’s, Llundain. Enillod graddau MRCS, LRCP a LSA yn 1868. Bu’n ymarfer ei grefft fel meddyg ym Mhorth Tywyn am bedair blynedd, ac wedyn ymunodd â staff Seilam West Riding yn Wakefield, gan aros am 35 mlynedd a chyrraedd y rôl o Gyfarwyddwr Meddygol.
Am 25 mlynedd hefyd roedd yn gysylltiedig â’r sefydliad sydd erbyn hyn ym Mrifysgol Leeds, ac efe oedd Athro Clefydau’r Meddwl yno.
Yn ôl Sir James Crichton-Brown yn ysgrifennu yng Nghylchgrawn y Meddygol Prydeinig adeg ei farwolaeth yn 1929:
“Dr William Bevan-Lewis was one of the most diligent and productive of labourers in the field of medical psychology in this country during the last quarter of the last century and the first decade of [20th c]
“After completing his studies at Guy’s Hospital… he became assistant medical officer at the Buckingham County Asylum… “ but after 2 yrs returned to Cardigan to begin private practice. “He soon found that his occupation in a mountainous district of Wales (sic!) was uncongenial, and left him no opportunity for the research work in which he earnestly desired to engage”.
[O leiaf nath e ddim sôn bod e’n dod o’r Cymoedd]
Dechreuodd yn Seilam West Riding yn 1875.
Fe oedd awdur nifer o lyfrau gosod a chyhoeddiadau yn ymwneud â chlefydau’r meddwl, gan gynnwys:
- Human Brain, Histological and coarse methods of research (1882)
- Textbook of the Mental Diseases with special reference to the pathological aspects of insanity (1889)
- a’r darnau ar y system nerfol yn System of Medicine, Allbutt.
Mae rhai o’r llyfrau yma mewn print ac ar gael i brynu ar wefan Amazon.
Cafodd radd MSc Prifysgol Leeds yn 1905, ac ef oedd llywydd y Gymdeithas Meddygon-Seicolegol yr un flwyddyn.
Gwerthfawrogir ei waith gan arbenigwyr ei faes yma a thramor, a chydnabyddir ei ymdrechion gan y proffesiwn yn gyffredinol. Un o’r dynion addfwynaf mewn oes pan mae fod yn enwog yw’r nod, ac un i gadw ei hun at ei hun oedd Bevan-Lewis.
Bu farw ar 14 Hydref 1929, yn 82 oed.
Pan fyddwch yn cerdded heibio rhif 9 y Stryd Fawr cofiwch am Dr Bevan-Lewis.
Efallai fod hi’n bryd gosod plac glas ar y wal!